Senedd Ieuenctid Cymru – Arolwg Teithio Cynaliadwy – Hawdd ei Ddeall

Ebrill 2023 | Arolwg Teithio Cynaliadwy. Beth ydy eich barn chi am ffyrdd o deithio yng Nghymru?

Gofynnodd Senedd Ieuenctid Cymru inni wneud fersiwn Hawdd ei Ddeall o’u harolwg. Maen nhw eisiau gwybod beth mae pobl rhwng 9 a 25 oed yn ei feddwl am deithio cynaliadwy.

Teithio cynaliadwy ydy teithio sy’n gwneud llai o niwed i’r amgylchedd. Mae’n drafnidiaeth gyhoeddus ac yn deithio’n llesol. Maen nhw eisiau deall beth sy’n atal mwy o bobl ifanc rhag teithio’n gynaliadwy.

Mae’r arolwg yn gofyn am bethau fel sut rydych chi’n teithio a’r gwasanaethau trafnidiaeth yn eich ardal chi. Rydych chi’n gallu llenwi’r arolwg erbyn 28 Gorffennaf 2023 i ddweud wrthyn nhw beth rydych chi’n ei feddwl.

Fe wnaethon ni hefyd fersiwn Cymraeg Hawdd ei Ddeall o’r arolwg. Mae’r ddau arolwg yn hygyrch yn ddigidol i ddarllenwyr sgrin a thechnoleg gynorthwyol arall.

Pwyswch y botwm lawrlwytho coch i weld a chadw’r arolwg.

Gallwch fynd i wefan Senedd Ieuenctid Cymru am ragor o wybodaeth.

Cysylltwch â ni os ydych chi eisiau gwybod mwy am unrhyw un o’n gwasanaethau: easyread@ldw.org.uk.