Senedd Ieuenctid Cymru – Mae Meddyliau Ifanc yn Cyfrif – Hawdd ei Ddeall

Chwefror 2023 | Mae Meddyliau Ifanc yn Cyfrif.

Gofynnodd Pwyllgor Iechyd Meddwl a Llesiant Senedd Ieuenctid Cymru inni wneud dogfen Hawdd ei Ddeall o’u hadroddiad. Yn 2022 fe wnaethon nhw siarad gyda phobl ifanc ledled Cymru am iechyd meddwl a llesiant. Fe wnaethon nhw siarad gyda phobl ifanc mewn digwyddiadau ac fe wnaeth dros 3500 lenwi eu harolwg. Mae’r ddogfen yn cynnwys yr hyn a ddysgodd y pwyllgor o hyn a beth maen nhw’n ei argymell sydd angen digwydd nesaf.

Fe wnaethon ni hefyd wneud fersiwn Hawdd ei Ddeall o’r canllaw. Mae’r ddau ganllaw ar gael yn ddigidol i ddarllenwyr sgrin a thechnoleg cynorthwyol arall.

Pwyswch y botwm lawrlwytho coch i weld a chadw’r canllaw.

Gallwch fynd i wefan Senedd Ieuenctid Cymru i gael rhagor o wybodaeth.

Cysylltwch gyda ni os ydych eisiau gwybod mwy am unrhyw un o’n gwasanaethau: easyread@ldw.org.uk.