Llywodraeth Cymru – Cymru sy’n falch o’r mislif – Hawdd ei Ddeall

Chwefror 2023 | Cymru sy’n falch o’r mislif – Cynlluniau Llywodraeth Cymru.

Gofynnodd Llywodraeth Cymru inni wneud dogfen Hawdd ei Ddeall yn  esbonio’u cynllun i wella’r mislif i fenywod, merched a phobl gyda mislif yng Nghymru rhwng  2023 a 2027.

Mae’r ddogfen  yn dweud beth sydd wedi digwydd hyd yma ynglŷn â thlodi mislif ac urddas mislif. Mae’n esbonio beth maen nhw’n bwriadu ei  wneud i wneud Cymru sy’n falch o’r mislif.

Fe wnaethon ni hefyd wneud fersiwn Cymraeg Hawdd ei Ddeall o’r canllaw. Mae’r ddau ganllaw ar gael yn ddigidol ar gyfer darllenwyr sgrîn a thechnoleg gynorthwyol arall.

Gwasgwch y botwm lawrlwytho coch i weld a chadw’r canllaw.

Gallwch fynd i wefan Llywodraeth Cymru am ragor o wybodaeth. Rydych yn gallu darllen y cynllun mewn gwahanol fformatau, gwylio fideos amdano a lawrlwytho adnoddau defnyddiol.

Cysylltwch â ni os ydych chi eisiau gwybod mwy am unrhyw un o’n gwasanaethau: easyread@ldw.org.uk.