Sefydliad Paul Ridd – Gofal Iechyd i bobl gydag anabledd dygsu – Hawdd ei Ddeall

Ionawr 2023 | Gofal Iechyd i bobl gydag anabledd dysgu

Gofynnodd Sefydliad Paul Ridd inni wneud llyfryn Hawdd ei Ddeall i bobl gydag anabledd dysgu, eu teuluoedd a’u gofalwyr. Mae’n ymwneud â gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru i bobl gydag anabledd dysgu a’r help sydd ar gael i dderbyn y gofal iechyd cywir.

Mae’r llyfryn yn darparu gwybodaeth am archwiliadau iechyd blynyddol, proffil iechyd, gwasanaeth y nyrs cydlynu a rhagor. Rydym wedi cynhyrchu llyfryn Hawdd ei Ddeall yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Mae Sefydliad Paul Ridd yn gwneud gwahaniaeth i bobl gydag anabledd dysgu drwy godi ymwybyddiaeth o’r problemau maen nhw yn eu wynebu wrth gael gafael ar ofal iechyd da. Mae’r llyfrynnau yma yn helpu pobl i wybod am y gefnogaeth sydd ar gael iddyn nhw.

Mae’r llyfrynnau PDF Hawdd ei Ddeall Cymraeg a Saesneg ar gael yn ddigidol ar gyfer darllenwyr sgrin a thechnoleg gynorthwyol arall.

Pwyswch y botwm lawrlwytho coch i weld a chadw’r canllaw.

Gallwch fynd i wefan Sefydliad Paul Ridd i gael rhagor o wybodaeth.

Cysylltwch gyda ni os gwelwch yn dda os ydych eisiau gwybod rhagor am unrhyw un o’n gwasanaethau: easyread@ldw.org.uk.