Mae Hijinx, Disability Arts Cymru ac Anabledd Dysgu Cymru yn gweithio gyda’i gilydd i ddynodi’r problemau a wynebir gan bobl ag anabledd dysgu a rhai niwrowahanol sydd o gymunedau sy’n dioddef hiliaeth, wrth gysylltu neu gymryd rhan yn y celfyddydau.

Rydym yn cynnal 3 sesiwn zoom am ddim i edrych ar y problemau yma. Gallwch ymuno â ni am 1,2 neu’r tair sesiwn fer yma. Mae pob sesiwn yn cynnwys cyflwyniadau a chyfle i ofyn cwestiynau a bod yn rhan o’r drafodaeth.

A group of people rehearsing a theatre performance

Sesiwn 1 – Beth ydym yn ei wybod yn barod?

Dydd Mercher 18 Mai 2022

10:00 am – 11:00 am

Yn y sesiwn gyntaf byddwn yn edrych ar sut mae pethau nawr, i gymunedau ag anabledd dysgu a rhai niwrowahanol, y rhai sy’n profi hiliaeth, a sut y mae Covid wedi effeithio ar y celfyddydau yng Nghymru.

Bydd Dr Edward Oloidi o Brifysgol De Cymru yn rhannu ei waith ymchwil ar effaith Covid ar bobl ag anabledd dysgu yng Nghymru.

Andrew Ogun yw’r Asiant dros Newid yng Nghyngor Celfyddydau Cymru. Bydd yn rhannu ei brofiad o’i flwyddyn gyntaf yn Asiant dros Newid, ei sylwadau am y sector ac yn archwilio’r newidiadau sydd angen iddynt ddigwydd i’r sector fod yn gynhwysol a hygyrch i bawb. 

Cliciwch yma i archebu eich lle yn y sesiwn hon