Mae Gwelliant Cymru yn cynnal 2 gweithdy ym Mhowys am arferion cyfyngol gyda:

  • Anabledd Dysgu Cymru
  • Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan
  • Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol
  • Fforwm Cymru Gyfan i Rieni a Gofalwyr
  • Gofal Cymdeithasol Cymru.

Arferion cyfyngol ydy ffyrdd o stopio pobl rhag gwneud rhywbeth. Neu rheoli pobl. Er enghraifft:

  • dal rhywun i lawr i’w stopio nhw rhag anafu eu hunain neu eraill
  • rhoi meddygniaeth iddyn nhw i’w stopio rhag gwneud rhywbeth niweidiol
  • gwneud iddyn nhw aros mewn ystafell i ffwrdd oddi wrth bobl eraill.

Gallwch ddarllen mwy am arferion cyfyngol yn nogfen hawdd ei deall Llywodraeth Cymru “Fframwaith ar gyfer lleihau arferion cyfyngol”.

Mae’r gweithdai ar gyfer pobl ag anableddau dysgu a’u teuluoedd. Nod y gweithdai ydy dweud wrthych chi am:

  • y 7 math o arferion cyfyngol
  • pryd mae hi’n gyfreithiol i ddefnyddio arferion cyfyngol
  • sut mae’r gyfraith yn eich amddiffyn chi a beth ydy eich hawliau chi.

Fe fydd y gweithdaiu yn digwydd yn:

  • Drefnewydd – 27 Mawrth 2023
  • Aberhonddu – 28 Mawrth 2023.

Os ydych chi eisiau dod i 1 o’r gweithdai, cofrestrwch ar-lein drwy glicio ar y ddolen yma.

Neu gallwch lenwi’r fersiwn hawdd ei deall o’r ffurflen gofrestru yma a’i e-bostio i Tarah.cooke@wales.nhs.uk.

Os ydych chi angen help i gofrestru, cysylltwch gyda Tarah.cooke@wales.nhs.uk.