Mae Anabledd Dysgu Cymru yn dymuno penodi tri unigolyn i ymuno â’r tîm: Cydlynydd Cymorth Gweinyddol, Cydlynydd Rhwydweithiau a Digwyddiadau, a Chydlynydd Gwirfoddolwyr Ffrindiau Gigiau Gogledd Cymru.

Rydym eisiau i Gymru fod y wlad orau i bobl gydag anabledd dysgu i fyw, dysgu a gweithio ynddi.

Rydym yn sefydliad sy’n ymdrechu i sicrhau bod ein diwylliant, polisïau ac ymarfer yn adlewyrchu ein bod yn parhau i weithio tuag at fod yn gyflogwr modern, teg, cyfartal a chynhwysol.  Rydym yn awyddus i glywed gan bobl a allai brofi gwahaniaethu wrth geisio am swyddi. Rydym wedi ymrwymo i dyfu a chefnogi gweithlu amrywiol.

Cewch wybodaeth am weithio i Anabledd Dysgu Cymru yma (PDF)

Gobeithio y bydd gennych ddiddordeb mewn ymuno â’n tîm cyfeillgar, cefnogol ac angerddol.


Cydlynydd Cymorth Gweinyddol

Oriau: 30 awr yr wythnos (hyblyg)

Cyflog:  £23,948 pro-rata yn codi drwy gynyddiadau blynyddol i £26,315 + Pensiwn

Lleoliad: Rydym yn cynnig model hybrid o weithio gartref a yn ein swyddfa yn Llanisien, Caerdydd.

Ydych chi’n greadigol ac yn dda am ddod o hyd i atebion?  Yna gall ein rôl Cydlynydd Cymorth Gweinyddol newydd fod yn iawn i chi. Bydd y rôl hon yn darparu cefnogaeth weinyddol lefel uchel i’r tîm ac yn arwain ar ddatblygu systemau a phrosesau parhaus i wella’r ffordd rydym yn gweithio.

Am fwy o fanylion gweler isod:


Cydlynydd Rhwydweithiau a Digwyddiadau

Oriau: 20 awr yr wythnos (hyblyg)

Cyflog:  £23,948 pro-rata yn codi drwy gynyddiadau blynyddol i £26,315 + Pensiwn

Lleoliad: Rydym yn cynnig model hybrid o weithio gartref ac yn einwyddfa yn Llanisien, Caerdydd

Ydych chi’n allblyg ac yn drefnus?  Rydym yn chwilio am rhywun sy’n gallu meithrin perthynas â sefydliadau eraill, cynllunio, hyrwyddo a helpu i gynnal ein digwyddiadau a’n gweithgarwch rhwydweithio.

Am fwy o fanylion gweler isod:


Cydlynydd Gwirfoddolwyr Ffrindiau Gigiau Gogledd Cymru

Oriau:  25 awr yr wythnos (hyblyg)

Cyflog:  £23,948 pro-rata yn codi drwy gynyddiadau blynyddol i £26,315 + Pensiwn

Lleoliad: O’ch cartref yng Ngogledd Cymru.

Rydym yn chwilio am rhywun sy’n gyfeillgar, yn bositif, yn drefnus, yn hunan-gymhellol, gyda llawer o egni, creadigrwydd a brwdfrydedd i ymuno â’n tîm Ffrindiau Gigiau ymroddedig ac angerddol.  Bydd y rôl yn recriwtio, hyfforddi a chefnogi ein gwirfoddolwyr ochr yn ochr â meithrin perthynas â sefydliadau yng ngogledd Cymru.

Mae’r swydd hon yn cael ei hariannu tan fis Medi 2024.

Am fwy o fanylion gweler isod:


Sut i wneud cais

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais, anfonwch eich CV atom a llythyr eglurhaol yn dweud wrthym pam mai chi yw’r person gorau ar gyfer y rôl, neu gallwch ddweud hyn wrthym ar glip fideo.  Os ydych chi eisiau cymorth i wneud hyn  neu os oes angen ffordd wahanol o wneud cais, yna cysylltwch â ni ar enquiries@ldw.org.uk neu ffoniwch ni ar 029 20681160.

Ein hoff ddull o wneud cais yw drwy e-bost ond gallwch bostio’ch manylion atom yn Anabledd Dysgu Cymru, 41 Lambourne Crescent, Llanisien, Caerdydd CF14 5GG.

Dyddiad cau: Dydd Mawrth 14 Chwefror 2023