Mae Ymddiriedolaeth Innovate wedi dyfarnu Anrheg Nadolig o £5000 i Ffrindiau Gigiau Cymru am yr ail flwyddyn yn olynnol, yn gydnabyddiaeth am “wasanaeth amhrisiadwy, sydd yn rhoi llawenydd i gymaint”.

A group of Gig Buddies standing in front of a huge Christmas tree in Newport town centre

Mae Ffrindiau Gigiau Cymru yn delio gydag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol drwy baru pobl gyda  a heb anabledd dysgu ac/neu awtistiaeth fel eu bod yn gallu mynychu gigiau a digwyddiadau cymdeithasol eraill gyda’i gilydd. Ers lansio’r prosiect arloesol yng Nghaerdydd yn 2018 mae Anabledd Dysgu Cymru bellach wedi ehangu Ffrindiau Gigiau i hanner yr awdurdodau lleol yng Nghymru.

Dywedodd Nick French, Prif Swyddog Gweithredol Ymddiriedolaeth  Innovate:

“Mae Ffrindiau Gigiau yn cynnig cyfleoedd gwych i ehangu profiadau pobl ac yn ei dro yn cyfrannu’n fawr at gynyddu hyder ac annibyniaeth unigolion. Mae nifer o bobl ar draws Cymru wedi siarad gyda mi yn llawn cyffro am y gigiau maen nhw wedi cael eu cefnogi i’w mynychu, beth sy’n digwydd nesaf a’r ffrindiau maen nhw wedi eu gwneud a sut maen nhw’n falch o fod yn rhan o rhywbeth mwy. Felly yn ei dro mae Ymddiriedolaeth Innovate yn falch o allu cynnig y cyllid mawr ei angen i’r gwasanaeth amhrisiadwy yma sydd yn rhoi llawenydd i gymaint!”

Mae Richie Horrigan yn cael ei gefnogi gan Ymddiriedolaeth Innovate ac mae wedi bod yn Ffrind Gigiau ers dros 2 flynedd. Yn y flwyddyn ddiwethaf mae Richie wedi bod i gyngherddau a gemau reslo gyda’i Ffrind Gigiau Mark ac mae wedi gwneud sawl ymddangosiad ar BBC Radio Wales yn siarad am y digwyddiadau mae wedi eu   mynychu drwy Ffrindiau Gigiau.

Dywedodd Richie: “Un o’r pethau rydw i’n ei garu am Ffrindiau Gigiau ydy nad oes yna unrhyw gyfyngiadau amser gyda lle rydych chi eisiau mynd. Yn y gorffennol rydw i wedi bod allan gyda Ffrindiau Gigiau yn hwyrach na hanner nos. Yn nes ymlaen y mis yma mae fy Ffrind Gigiau Mark a fi yn mynd i ddigwyddiad reslo sydd yn dechrau am 9pm ac yn gorffen am 5am y bore wedyn – a dydy hynny ddim yn jôc!

“Mae Ffrindiau Gigiau yn wych  hefyd i bobl sydd eisiau gwahanol bethau – o sinema a theatr, i nosweithiau drag, mae’n llawer o hwyl. Dydy’r hwyl fyth yn stopio gyda Ffrindiau Gigiau!”

Dywedodd Karen Warner, Rheolwraig Arloesi gydag Anabledd Dysgu Cymru: “Rydym yn falch o dderbyn ail rodd o £5000 gan Ymddiriedolaeth  Innovate. Roedd yn syrpreis ffantastig, diolch Nick French! Fe fydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu taflenni newydd a deunyddiau hyrwyddo i godi ymwybyddiaeth, recriwtio rhagor o wirfoddolwyr a chreu parau Ffrindiau Gigiau. Rydym yn edrych ymlaen at barhau gyda’n perthynas waith agos gydag Ymddiriedolaeth Innovate ac yn enwedig eu Ap Insight sydd yn wych am gyflwyno gweithgareddau ar-lein, cymdeithasu diogel a datblygu cyfeillgarwch naturiol.”

Mae angen gwirfoddolwyr newydd i Ffrindiau Gigiau

Mae Ffrindiau Gigiau Cymru yn rheolaidd yn chwilio am wirfoddolwyr a chyfranogwyr sydd eisiau bod yn Ffrindiau Gigiau yn Ynys Môn, Pen-y-bont, Caerdydd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, Bro Morgannwg a Wrecsam. I wneud cais i fod yn ffrind Gigiau neu i ddysgu rhagor ewch i’n  tudalen Ffrindiau Gigiau Cymru lle rydych yn gallu lawlwytho ffurflen gais a gwylio fideos am y prosiect