Mae Anabledd Dysgu Cymru yn falch bod Innovate Trust wedi dewis ein prosiect Ffrindiau Gigiau Cymru fel eu helusen Nadolig ar gyfer 2021.

A group of Gig Buddies standing in front of a huge Christmas tree in Newport town centreMae Ffrindiau Gigiau Cymru yn mynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol drwy baru unigolion sydd ag anabledd dysgu a/neu awtistiaeth gydag unigolion heb anabledd dysgu fel y gallant fynychu digwyddiadau a gigiau gyda’i gilydd. Ers lansio’r prosiect arloesol yng Nghaerdydd yn 2018, mae Anabledd Dysgu Cymru bellach wedi ehangu Ffrindiau Gigiau i hanner yr awdurdodau lleol yng Nghymru.

Dywedodd Rheolwr Arloesedd Anabledd Dysgu Cymru, Karen Warner: “Hoffwn ddiolch i Innovate Trust am eu rhodd hael o £5,000 i helpu â’n gwaith Ffrindiau gigiau, a fydd yn helpu i gefnogi rhagor o gyfeillgarwch Ffrindiau Gigiau. Mae Ffrindiau Gigiau Cymru’n gweithio’n agos ag Innovate Trust, ac mae’r Ap Insight wedi bod yn achubiaeth i bobl allu cymdeithasu a chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau yn ystod y pandemig. Mae rhai o’n Ffrindiau Gigiau a Llysgenhadon Stay Up Late yng Nghymru yn fentoriaid cyfoed ar Insight, ac rydym wedi mwynhau cynnal partïon a chwisiau ar y cyd ar yr ap.”

Dywedodd Nick French, Prif Weithredwr Innovate Trust: “Mae Innovate Trust yn falch iawn o Gefnogi Ffrindiau Gigiau. Mae cymaint o bobl yn elwa o’u gwaith eisoes ac yn siarad am eu profiadau’n galonogol. Maent yn haeddu cefnogaeth i gynnal ac ehangu’r gwasanaeth amhrisiadwy a chreadigol hwn.”

Yn ystod y 3 blynedd a hanner ers i Anabledd Dysgu Cymru sefydlu’r prosiect yng Nghymru, mae Ffrindiau Gigiau wedi mynychu ystod eang o ddigwyddiadau gyda’i gilydd, gan gynnwys cyngherddau, gwyliau, sioeau cerdd, comedi, gemau chwaraeon a pharciau thema, ac wedi ymweld ag amgueddfeydd, cestyll, orielau a lleoedd diwylliannol eraill. Roedd nifer o’r rhain yn brofiadau newydd ar gyfer cyfranogwyr Ffrindiau Gigiau. Mae Ffrindiau Gigiau wedi dweud wrthym, yn ogystal â’u helpu i wneud ffrindiau newydd a mynychu digwyddiadau y maent wrth eu bodd â nhw, mae bod yn rhan o Ffrindiau Gigiau wedi helpu i wella eu hannibyniaeth a’u hyder.

Mae Ffrindiau Gigiau yn chwilio am wirfoddolwyr a chyfranogwyr sydd eisiau bod yn Ffrindiau Gigiau yn Ynys Môn, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, Bro Morgannwg a Wrecsam. I wneud cais i ddod yn Ffrind Gig neu i ddysgu mwy, ewch i dudalen Ffrindiau Gigiau Cymru lle gallwch lawrlwytho ffurflen gais a gwylio fideos am y prosiect.