Mae nifer o bobl gydag anabledd dysgu yng Nghymru eisiau bod mewn gwaith cyflogedig ond maen nhw’n cael trafferth i ddarganfodd gweithleoedd addas. Beth sydd angen ei newid i wneud hyn yn bosibl?

Ein gwaith ar gyflogaeth

Am y 4 blynedd ddiwethaf mae Anabledd Dysgu Cymru wedi bod yn rhan o’r project Engage to Change sydd yn cefnogi pobl ifanc rhwng 16-25 oed gydag anabledd dysgu ac/neu awtistiaeth i gael gwaith cyflogedig. Ym mis Tachwedd 2021 fe wnaethom hefyd neilltuo ein cynhadledd flynyddol  i’r pwnc gwaith a chyflogaeth.  .

Fel rhan o’r prosiect Engage to Change rydym yn gweithio gyda phobl ifanc, teuluoedd a chyflogwyr gan ddefnyddio cyflogaeth gyda chefnogaeth a model hyfforddiant swydd i ddarganfod swyddii da i bobl gydag anabledd dysgu ac/neu awtistiaeth. Ond er mwyn i bobl gydag anabledd dysgu neu awtistiaeth gael yr un cyfleoedd yn y farchnad lafur â phawb arall, mae angen i lawer o bethau eraill newid hefyd. Fe wnaethom siarad am rai o’r newidiadau hyn yn sesiwn derfynol ein cynhadledd gyda phanel o arbenigwyr

  • Sara Pickard, Hyrwyddwraig Cyflogaeth Pobl Anabl, Llywodraeth Cymru
  • Joe Powell, Cyfarwyddwr, Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan
  • Daniel Biddle, Rheolwr Gyfarwyddwr, Legacy in the Community
  • Kim Killow, Swyddog Arweiniol strwythurau Integredig, North Wales Together
  • Dr Steve Beyer, Ymchwilydd, Canolfan Genedlaethol Iechyd Meddwl
  • Zoe Richards, Prif Weithredwraig, Anabledd Dysgu Cymru.

Gallwch wylio recordiad o’r sesiwn gyfan yma.

Trafodwyd nifer o’r newidiadau sydd eu hangen i wneud Cymru yn wlad lle mae pob person gydag anabledd dysgu  sydd eisiau gweithio yn gallu darganfod swydd.

Newid agweddau yn y gymdeithas ac yn y gweithle

Yn aml mae pobl heb anabledd dysgu yn bychanu’r hyn y mae pobl anabl yn gallu ei wneud ac yn meddwl na ddylai pobl gydag anabledd dysgu gael swyddi ‘go iawn’. Yn ein cynhadledd dywedodd Sara Pickard wrthym mai’r ffordd o ddangos beth mae pobl yn gallu ei wneud ydy iddyn nhw fod yn weledol mewn cymdeithas, yn y cyfryngau, mewn ysgolion – ym mhobman.. Mae hyn yn bwysig i gyflogwyr a hefyd i bobl gydag anabledd dysgu eu hunain, nad ydyn yn aml yn cael eu hannog i chwlio am waith cyflogedig hyd yn oed pan maen nhw’n awyddus i wneud hynny. Esboniodd Kim Killow mai’r ‘diwylliant o uchelgais isel’ i bobl gydag anabledd dysgu o bosibl oedd y  rhwystr anoddaf i ddelio gydag ef. Fe fydd newid y diwylliant a sicrhau bod pobl gydag anabledd dysgu yn cael eu cynnwys ym mhob agwedd o gymdeithas yn hanfodol i oresgyn y rhwystrau yma

Cynyddu dealltwriaeth o’r model cymdeithasol o anabledd dysgu

Mae gormod o bobl yn parhau i feddwl nad ydy pobl anabl yn gallu gwneud pethau oherwydd bod rhywbeth o’i le arnyn nhw – gelwir hyn yn fodel meddygol o anabledd. Ar y llaw arall mae’r model cymdeithasol o anabledd yn datgan bod pobl yn anabl oherwydd rhwystrau mewn cymdeithas yn hytrach nag oherwyded eu nam neu eu gwahaniaeth. Fel y nododd Sara Pickard,  mae addasiadau rhesymol i alluogi person anabl i wneud swydd yn dda yn aml yn haws i’w sefydlu nag y mae cyflogwyr yn ei feddwl.  Mae addysgu cyflogwyr am y model cymdeithasol o anabledd yn debygol o’i gwneud yn haws iddyn nhw ystyried ffyrdd o gynyddu hygyrchedd  yn y gweithle i bobl gydag anabledd dysgu. Mae hyn hefyd yn meddwl sicrhau eu bod yn gallu cael gafael ar gyngor yn hawdd ar faterion fel addasiadau rhesymol, Mynediad i Waith, cyflogaeth gyda chefnogaeth neu hyfforddiant ymwybyddiaeth o anabledd.   Ychwanegodd Daniel Biddle bod hyn hefyd yn cynnwys deall y Ddeddf Cydraddoldeb yn well. Gall cyflogwyr feddwl os ydyn nhw’n trin pawb yr un fath yna dydyn nhw ddim yn gwahaniaethu yn erbyn neb. Ond,er  mwyn cyflawni cyfle cyfartal i bobl anabl mae angen gwneud addasiadau rhesymol a gall peidio â  darparu’r rhain  gael ei ystyried yn fath o wahaniaeth.

Gwneud ceisiadau yn fwy hygyrch

Yn aml gall y broses o wneud cais am swydd fod yn anhygyrch i bobl gydag anabledd dysgu, er enghraifft gorfod llenwi ffurflenni cais cymhleth. Fe ddylai cyflogwyr sicrhau bod y broses o wneud cais mor syml â phosibl fel nad ydy pobl allai fod yn gwbl fedrus o wneud swydd yn cael eu heithrio dim ond oherwydd nad ydyn nhw’n gallu ymdopi gyda’r ffurflen gais

Sicrhau bod cefnogaeth ar gael ym mhobman ac i bawb

Yn aml ceir ‘loteri cod post’ ynghylch pwy sydd yn gallu cael cefnogaeth. Esboniodd Kim Killow yn ein cynhadledd bod ‘gennym rhai o’r darnau rydym eu hangen, ond nad ydyn nhw yn dod at ei gilydd’. Mae’n bwysig bod anghydraddoldebau lleol yng Nghymru yn cael eu trafod a bod pobl gydag anabledd dysgu yn gallu cael cefnogaeth lle bynnag maen nhw. Mae’n bwysig hefyd bod cefnogaeth ar gael i bobl o bob oed. Yn aml mae cefnogaeth cyflogaeth  (yn cynnwys y prosiect Engage to Change) wedi’i anelu yn benodol at bobl ifanc i fyny at 25 oed. Ond efallai bod pobl gydag anabledd dysgu o bob oed angen cenfogaeth i ddarganfod a chadw gwaith cyflogedig. Yn ein cynhadledd  dywedodd Dr Steve y dylai hyfforddiant swydd fod ar gael ar draws Cymru i’r rhai sydd ei angen yn ogystal ag ar bob cam yn y broses. O ran cyllido mae hyn yn golygu bod angen i arian gael ei ddiogelu ar gyfer cyflogaeth gyda chefnogaeth a hyfforddiant swydd i sicrhau nad ydy anghenion cefnogaeth mwy cymhleth yn cael eu gadael ar ôl.

Amddiffyn budd-daliadau

Problem fawr i bobl gydag anabledd dysgu sydd eisiau cael gwaith cyflogedig ydy eu bod mewn perygl o golli eu budd-daliadau os nad ydy’r swydd yn gweithio iddyn nhw am rhyw reswm. Fe ddylai’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) newid y rheolau fel eu bod yn gallu rhoi cynnig ar weithio am ychydig fisoedd ac yna mynd yn ôl ar fudd-daliadau  ac fe ddylent gael yr un budd-daliadau ag o’r blaen heb orfod aros am wythnosau neu fisoedd. Fel y dywedodd Steve Beyer a Joe Powell rydym angen system fudd-daliadau sydd yn annog pobl i waith drwy gael gwared ar y risg o goli eu budd-dal a bod yn waeth eu byd nag yr oedden nhw o’r blaen.

Gwneud addysg yn gynhwysol

Yn aml mae’r anawsterau mae pobl gydag anabledd dysgu yn eu wynebu yn y gweithle yn dechrau cyn iddyn nhw hyd yn oed fod yn ddigon hen i weithio. Disgrifiodd ein Prif Weithredwraig Zoe Richards bod rhaid inni, er mwyn  creu gweithle cynhwysol, greu ‘amgylcheddau dysgu cynhwysol’. Mae hyn yn golygu gwneud ysgolion prif ffrwd yn gynhwysol i bob plentyn a sicrhau bod pob plentyn yn cael yr addysg maen nhw ei angen. Mae hefyd yn golygu gwneud cynnydd yn normal yn hytrach na gwneud i bobl ifanc gydag anabledd dysgu gredu na allan nhw fyth gael gwaith cyflogedig. Trafododd  Daniel Biddle bwysigrwydd creu gwir ‘ddiwylliant cynhwysiant’ mewn ysgolion. Ychwanegodd Joe Powell bod ‘nifer o bobl gydag anabledd dysgu yn ymddeol i bob pwrpas yn 18 oed’. Rhaid inni sicrhau nad ydy pobl ifanc yn methu cael y lle mewn cymdeithas maen nhw ei eisiau a’i haeddu o’r cychwyn. Mae gwneud addysg yn gynhwysol hefyd yn golygu sicrhau bod y bobl sydd yn gweithio mewn ysgolion ac yn eistedd ar gyrff llywodraethu mor amrywiol â’u myfyrwyr s.

Grymuso pobl gydag anabledd dysgu i sefyll i fyny drostynt eu hunain

Yn aml gwahaniaethir yn erbyn pobl gydag anabledd dysgu a phobl awtistig yn y gweithle ac mewn rhannau erail o gymdeithas. Yn aml dydyn  nhw ddim yn cael yr un cyfleoedd ag eraill neu dydyn nhw ddim yn derbyn yr addasiadau rhesymol y mae ganddyn nhw hawl i’w cael. Er mwyn newid hyn rhaid inni rymuso pobl gydag anabledd dysgu i ddeall eu hawliau a sut i ymladd drostynt. Maen nhw angen gwybodaeth hygyrch pan fo pethau’n mynd o chwith. Esboniodd Daniel Biddle hefyd pa mor bwysig ydy rhoi’r wybodaeth gywir i rieni i ymladd dros hawl eu plant i gael addysg gynhwysol. Dim ond os oes gan bobl yr offer angenrheidiol i ymladd dros eu hawliau y gallant yrru newid i blant ac oedolion gydag anabledd dysgu.

Ailfeddwl ein dealltwriaeth o waith a chyflogaeth

Gwyddom bod y rhan fwyaf o bobl gydag anabledd dysgu yng Nghymru eisiau bod mewn gwaith, nid yn unig oherwydd yr arian y byddan nhw yn ei ennill ond oherwydd ei fod yn rhoi pwrpas ac annibyniaeth iddyn nhw a ffordd i gyfrannu tuag at gymdeithas. Gyda mwy a mwy o swyddi yn cael eu gwneud gan beiriannau rhaid inni ddechrau meddwl am newid y system fel bod pawb yn cael cyfle i gael bywyd ystyrlon. Mae Cymru ar hyn o bryd yn treialu ffurfiau o Incwm Sylfaenol Cynhwysol (UBI) lle bydd pobl yn derbyn incwm os ydyn nhw’n gweithio ai peidio. Os caiff UBI ei gyflwyno yn ehangach gallai hyn roi cyfle i bobl gydag anabledd dysgu i archwilio eu cryfderau a’u sgiliau y tu allan i’r hyn a ystyriwn yn waith ar hyn o bryd. Os felly, byddai’n bwysig  i bethau fel Mynediad i Waith neu  gyflogaeth gyda chefnogaeth barhau  i fod ar gael i gefnogi pobl gydag anabledd dysgu i gymryd rhan mewn cymdeithas

Y ffordd ymlaen

Fe fyddwn yn parhau i weithio i wneud cyflogaeth gyda chefnogaeth a hyfforddiant swyddi ar gael i bobl gydag anabledd dysgu ac awtistiaeth ar draws Cymru gyda’n partneriaid yn y prosiect Engage to Change. Rydym wedi clywed oddi wrth nifer o gyfranogwyr y prosiect bod cymryd rhan yn y rhaglen wedi eu gwneud yn hapusach ac yn fwy hyderus. Ond er mwyn gwneud cyflgoaeth yn wirioneddol hygyrch rydyn ni angen y newidiadau mwy yma hefy.