Photo of Julie outdoors,, she has bobbed red hair and is wearing sunglasses, Behind Julie is a view of a lake

Mae’n bleser gennym groesawu Julie Jenkins i dîm Anabledd Dysgu Cymru. Gwnaethon ni ofyn i Julie ddweud wrthon ni amdani hi ei hunan, a’i rôl newydd fel Cydlynydd Cymorth Gweinyddol.


Ymunais i ag Anabledd Dysgu Cymru ym mis Gorffennaf. Rwy’n gweithio ochr yn ochr â’r tîm, gan ddarparu cymorth gweinyddol, yn helpu i redeg y swyddfa ac yn arwain ar y gwaith sy’n mynd ymlaen i ddatblygu ein systemau a’n prosesau i wella’r ffordd rydyn ni’n gweithio.

Rwy’ wedi treulio llawer o’m bywyd gweithio mewn cwmnïau corfforaethol mawr fel dadansoddwr busnes/amgyffred; fodd bynnag, oherwydd i mi gael fy niswyddo a chael ychydig o broblemau iechyd 5 mlynedd yn ôl, dechreuais i chwilio am waith yn y trydydd sector. Wrth lwc, dechreuais i weithio fel Swyddog Cyfathrebu i Cartrefi Cymru Co-operative, sef elusen sy’n cefnogi pobl ag anabledd dysgu. Pan welais i’r swydd wag gydag Anabledd Dysgu Cymru, roeddwn i’n meddwl mai hon fyddai’r rôl newydd berffaith i mi. Rwy’n falch o ddod yn rhan o dîm sydd mor ymroddedig i wella bywydau pobl ag anabledd dysgu.

Rwy’n briod, gydag un mab mewn oed. Mae 2 Adargi Melyn gyda ni (Fletcher a Rory), ac rwy’n rhoi llawer o fy amser iddyn nhw. Rwy’ wrth fy modd yn mynd â nhw i’r traeth neu gefn gwlad – maen nhw’n rhoi llawer o lawenydd i mi!

Mae pobl yn fy adnabod i fel rhywun sy’n drefnus iawn, ac rwy’n eithaf technegol gyda chyfrifiaduron a meddalwedd – rwy’ wrth fy modd yn adeiladu mapiau proses a thaenlenni. Rwy’ hefyd yn hoff iawn o arddio, coginio, darllen a cherddoriaeth.