A diverse group of young people

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi lansio prosiect newydd i gasglu profiadau ystod amrywiol o bobl wrth iddyn nhw ddod yn oedolion, gyda’r nod o wella’r gofal a’r cymorth maen nhw’n eu cael.

Mae Prosiect 100 Stori Gogledd Cymru, sy’n cael ei arwain gan Wasanaethau Niwroddatblygiadol ac Anabledd Dysgu’r Bwrdd Iechyd, yn ymwneud â gweithio gyda phobl ar draws gwasanaethau gwahanol, i ddeall eu profiadau a’u straeon.

Am beth mae’r prosiect hwn?

Mae’r prosiect eisiau deall yn well beth sy’n digwydd pan fydd pobl ifanc sy’n ymwneud â Gwasanaethau Anabledd Dysgu, Niwroddatblygiad neu CAMHS yn symud i wasanaethau oedolion?

Weithiau mae hyn yn cael ei alw’n ‘bontio.’

Mae’r prosiect eisiau deall hyn trwy weithio gyda phobl sydd â phrofiad byw go iawn.

Pwy sy’n gallu cofrestru?

Unrhyw oedolyn dros 18 oed sydd â phrofiad o wasanaethau anabledd dysgu, niwroddatblygiad neu CAMHS (Iechyd Meddwl Plant) ac sy’n byw yng Ngogledd Cymru.

Gallech chi fod yn glaf, yn gyn-glaf, yn rhiant neu’n ofalwr, yn frawd neu’n chwaer neu’n weithiwr proffesiynol.

Beth fyddwch chi’n ei wneud?

  • Dysgu sgiliau newydd mewn arweinyddiaeth.
  • Rhannu eich meddyliau, eich profiadau a’ch barn ag eraill.
  • Creu stori o’ch profiad chi a’i hadrodd mewn ffordd sy’n gyfforddus i chi.
  • Gweithio gydag eraill i gynllunio sut gallwn ni wella gwasanaethau i bobl ifanc ac oedolion.

Pryd y bydd hyn yn digwydd?

Bydd digwyddiadau ‘croeso’ ar-lein ym mis Awst 2023.

Bydd y prosiect yn dechrau gweithio yn eu grwpiau ‘wyneb yn wyneb’ o fis Medi 2023.

Bydd 6 i 9 sesiwn dros 6 mis. Bydd angen i chi fod yn rhydd i gymryd rhan ym mhob sesiwn.

Ble y bydd hyn yn digwydd?

Bydd y rhan fwyaf o waith y prosiect gyda chi yn cael ei wneud wyneb yn wyneb.

Bydd un neu ddwy sesiwn ar-lein. Bydd y prosiect yn ceisio dewis lleoliad neu le mor agos at eich cartref â phosibl.

Bydd angen i chi drefnu eich cludiant eich hun i’ch grŵp ac oddi yno.

Sut byddwch chi’n cael eich cefnogi?

Bydd rhywun o’r prosiect yn cwrdd â chi i siarad am y prosiect yn gyntaf. Bydd hyn yn ein helpu i ddeall sut y gallwn ni eich cefnogi orau.

Byddan nhw’n cael sgyrsiau rheolaidd a sesiynau trafod (cyfarfodydd) gyda chi.

Byddan nhw’n sicrhau bod y wybodaeth rydyn ni’n ei rhoi i chi yn hawdd ei deall.

Os dydych chi ddim yn iawn neu dydych chi ddim mewn hwyliau da, byddan nhw’n siarad â chi am ba gymorth sydd ei angen arnoch chi a pha help maen nhw’n gallu ei gynnig.

Mwy o Wybodaeth

Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth am y prosiect hwn neu siarad â Christy ac Eirian, sy’n arwain y prosiect, dyma eu manylion cyswllt:

Christy: Christy.Hoskings@Wales.nhs.uk / 07813 720 568

Eirian: Eirian.wynne2@wales.nhs.uk / 07581 037 079