Ar hyn o bryd, Jon Day yw’r Cyfarwyddwr Cynorthwyol y Gweithlu gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae ganddo dros 30 mlynedd o brofiad ym maes iechyd a gofal cymdeithasol gyda’i flynyddoedd cynnar wedi treulio mewn gwasanaethau anabledd dysgu yn y sector iechyd a gwirfoddol.

Yn fwy ddiweddar, mae rolau Jon wedi bod mewn addysg, hyfforddiant ac adnoddau dynol a gweithredodd hefyd fel ymgynghorydd i Anabledd Dysgu Cymru ychydig o flynyddoedd yn ôl.

Mae Jon yn briod ac mae 2 o blant wedi’u tyfu i fyny gyda fe. Er y ganwyd yng Nghaerdydd, mae’n byw yng Nghastell-Nedd ers dros 30 mlynedd ond mae’n dal i gefnogi Dinas Caerdydd.

“Dw i’n gyffrous gan y cyfle i weithio gyda sefydliad mor wych a gobeithio cyfrannu at wella bywydau pobl gydag anabledd dysgu. Mae’n fraint llwyr bod yn y rôl hon a gwnaf i bob ymdrech i gwrdd â’r disgwyliadau a osodir arnaf.”

Dywed Zoe Richards, Prif Weithredwr, “Rydyn ni wrth ein bodd y bydd Jon yn dechrau yn swydd Cadeirydd yn ADC. Yn ystod yr amser hwn o newid arwyddocaol, mae’n bwysig bod ein Cadeirydd yn dod gyda phrofiad, gwybodaeth ac yn bwysicaf oll agwedd sy’n seiliedig ar werthoedd i waith Anabledd Dysgu Cymru ac rydyn ni’n credu, gyda phenodiad Jon, bydd ein sefydliad yn parhau i esblygu a bod yn berthnasol wrth geisio gwneud Cymru’r lle gorau i fyw ar gyfer pobl gydag anabledd dysgu i fyw, dysgu a gweithio ynddi.”