Mae rhai pobl ag anabledd dysgu fwy na chwe gwaith yn fwy tebygol o farw o coronafeirws â’r boblogaeth gyffredinol ac rydym yn gofyn am wneud addasiadau penodol i ddiogelu’r rhai sydd fwyaf mewn perygl.  

Mae angen eich help ar y Consortiwm Anabledd Dysgu i ofyn am y newidiadau hyn. Mae’r Consortiwm Anabledd Dysgu* yn cynnwys sefydliadau cenedlaethol y trydydd sector sy’n gweithio yng Nghymru i hyrwyddo hawliau pobl ag anabledd dysgu a’u gofalwyr teuluol.

E-bostiwch eich Aelod o’r Senedd

Anfonwch e-bost at eich Aelod o’r Senedd a gofyn iddynt ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Swyddog Meddygol Cymru. 

  1. Tenantiaid a staff mewn cynlluniau byw â chymorth anabledd dysgu a gosodiadau gofal preswyl i’w symud i grŵp blaenoriaeth 1.
  2. Sicrhau bod canllawiau Llywodraeth Cymru / Iechyd Cyhoeddus Cymru sy’n diffinio pobl ag anabledd dysgu yng ngrŵp blaenoriaeth 6 yn cael ei gyd-gynhyrchu gyda phobl ag anableddau dysgu a’u teulu a’u gofalwyr.
  3. Gofalwyr teuluol plant anabl dan 16 mlwydd oed sy’n gwarchod yn gallu cael y brechlyn yng ngrŵp 4.


Rydym wedi paratoi neges i chi i anfon eich Aelod o’r Senedd. Allwch weld yr e-bost a’i gweithredu yma.

Cymrwch than yn yr ymgyrch pwysig hwn – e-bostiwch eich Aelod o’r Senedd nawr.

* Mae’r Consortiwm Anabledd Dysgu yn cynnwys sefydliadau trydydd sector cenedlaethol sy’n gweithio yng Nghymru i hyrwyddo hawliau pobl ag anabledd dysgu a’u gofalwyr teulu. Mae’r aelodaeth yn cynnwys y Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan, Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan, Cymorth Cymru, Cymdeithas Syndrom Down, Anabledd Dysgu Cymru, a Mencap Cymru.