Rydym yn falch o gyflwyno tri aelod newydd o’n tîm staff yn Anabledd Dysgu Cymru: Rhian McDonnell (Swyddog Cyfathrebiadau Hygyrch), Iwan Good (Cydlynnydd Aelodaeth, Dogwyddiadau ac Ymgysylltu), a Nicola Alsept (Gweinyddydd Cyllid).

Fe wnaethom ofyn i Michael, Rhian, Iwan a Nicola ddweud wrthym ni amdanyn nhw eu hunain a’u rolau yn Anabledd Dysgu Cymru. Rydych chi’n gallu darllen proffil Rhian yma, proffil Michael yma, a proffil Nicola yma.


A young man with spiky brown hair and a grey jumper, standing with his hands behind his back, and smilingIwan

Fe wnes i ymuno yn ddiweddar gyda’r tîm digwyddiadau yn Anabledd Dysgu Cymru yn gweithio ochr yn ochr gyda Simon Rose, ein Rheolwr Digwyddiadau a Rhwydweithiau. Mae fy swydd yn cynnwys datblygu a chynnal ein cofnodion aelodaeth, helpu i drefnu ein digwyddiadau a chynorthwyo ein tîm cyfathrebiadau.

Roeddwn yn gwybod y byddai Anabledd Dysgu Cymru yn addas iawn imi gan fy mod wedi cael profiad cadarnhaol iawn yn gwirfoddoli gyda Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan a chyrff anabledd eraill pan yn fyfyriwr, ac fe wnes i fwynhau lleoliad yma ychydig flynyddoedd yn ôl.

Mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn gwneud ffilmiau a phopeth i wneud gyda thechnoleg gwybodaeth, ac rydw i wedi adeiladu ychydig o gyfrifiaduron. Rydw i yn siaradwr Cymraeg rhugl ac wedi derbyn fy addysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydw i’n hoffi cadw’n heini a rhedais fy Hanner Marathon Caerdydd gyntaf ar gyfer Ffrindiau Gigiau Cymru ym mis Mawrth 2022.  Ers hynny rydw i wedi rhedeg hanner marathon Abertawe a Bryste. Rydw i’n mwynhau nofio ac ymarfer yn fy nghampfa leol ac i ymlacio ar y penwythnosau – rydw i’n mwynhau ffilm dda a chael fy nychryn gan y ffilm arswyd ddiweddaraf!

Mae fy ngwerthoedd personol yn agos iawn at egwyddorion cydraddoldeb a hawliau dynol. Fe wnaeth fy ngwaith gwirfoddol fy helpu i ddeall y model cymdeithasol o anabledd a’r rhwystrau i fyw’n annibynnol y mae pobl gydag anableddau dysgu yn eu wynebu. Rydw i’n eithriadol o hapus i gael y cyfle i fod yn aelod o dîm Anabledd Dysgu Cymru i gefnogi hawliau pobl gydag anableddau dysgu. Rydw i’n edrych ymlaen at ddod i adnobod ein haelodau a gwneud cyfraniad allweddol i waith Anbabledd Dysgu Cymru. Rydw i’n teimlo’n freintiedig i gael y cyfle i gefnogi hawliau pobl gydag anabledd dysgu fel aelod o’n tîm.