Mae ymchwiliad mawr i gam-drin plant yn rhywiol ar draws ystod o leoliadau wedi argymell bod ysgolion arbennig preswyl yn cael eu rhedeg yn unol â’r un safonau â chartrefi gofal. Mae Aled Blake, Swyddog Polisi a Chyfathrebu Anabledd Dysgu Cymru, yn edrych ar beth mae hyn yn ei olygu a pham mae’n digwydd.

Mae Llywodraeth Cymru yn newid y ffordd y caiff ysgolion arbennig preswyl eu rheoleiddio, sy’n golygu’r ffordd y mae’n sicrhau bod yr ysgolion hyn yn lleoedd diogel i’w myfyrwyr fyw ynddynt. Mae hyn mewn ymateb i adroddiad mawr gan yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol (Saesneg yn unig). Cynhaliwyd yr ymchwiliad dros gyfnod o bron wyth mlynedd a chlywodd dystiolaeth gan 725 o ddioddefwyr cam-drin plant yn rhywiol ar draws ystod o leoliadau. Un o argymhellion niferus yr adroddiad oedd y dylid arolygu pob ysgol arbennig breswyl yn erbyn y safonau ansawdd a ddefnyddir i reoleiddio cartrefi gofal.

Beth mae hyn yn ei olygu?

Mae pedair ysgol arbennig breswyl yng Nghymru a fydd yn dod o fewn cwmpas y rheoliad. Mae’n rhaid i’r safonau gofal y mae’n rhaid eu dilyn yn y sector gofal bellach gael eu cymhwyso gan ysgolion arbennig preswyl. Rhaid i ddisgyblion a’u teuluoedd deimlo eu bod yn gallu adrodd am achosion o gam-drin, tra bod gan staff gyfrifoldeb i roi gwybod am gydweithwyr y maent yn amau eu bod yn cam-drin.

Er bod ysgolion arbennig preswyl wedi canolbwyntio mwy ar ddiogelu, canfu’r Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol, nad ydynt wedi bod mor ddiogel i blant ar brydiau ag y dylent fod. Roedd eisiau gweld gwelliannau mewn systemau arolygu, rheoleiddio a goruchwylio’r gweithlu, a gorfodi. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda thîm yr ymchwiliad i sicrhau bod ysgolion arbennig preswyl Cymru yn gallu gweithredu o fewn fframwaith o reoliadau sy’n bodloni canlyniadau’r ymchwiliad.

Beth mae Anabledd Dysgu Cymru’n ei feddwl am y newid hwn? 

Ymhlith canfyddiadau niferus yr ymchwiliad annibynnol oedd y ffaith bod plant ag anableddau dysgu mewn mwy o berygl o gael eu hecsbloetio. Rhaid i sicrhau bod y plant hynny’n cael eu magu a’u haddysgu mewn amgylcheddau diogel a chyfrifol lle cânt eu gwerthfawrogi a’u meithrin fel unigolion fod yn ganolog i genhadaeth pob person a sefydliad sy’n ymwneud â’u haddysg a’u datblygiad.

Mae sicrhau bod ysgolion arbennig preswyl yn cael eu rheoleiddio yn yr un modd â chartrefi gofal yn gam gweithredu cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru. Mae pobl ifanc mewn ysgolion arbennig preswyl yn haeddu cael y safonau gorau oll; a dylai eu ffrindiau a’u teuluoedd gael y tawelwch meddwl o wybod bod eu hanwyliaid yn cael gofal ac addysg mewn lleoliad diogel a meithringar. Drwy sefydlu system reoleiddio fwy cadarn ar gyfer ysgolion arbennig preswyl, mae Llywodraeth Cymru yn cyflawni’r newid angenrheidiol a nodwyd gan yr ymchwiliad.

Er mwyn helpu pobl ifanc a’u teuluoedd i ddeall beth mae’r newidiadau hyn yn ei olygu a sut mae’r rheoliadau wedi newid, hoffem weld cyfathrebiadau Hawdd eu Deall ar gael yn y dyfodol.

Gallwch ddarllen y datganiad ysgrifenedig gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ar y newidiadau i’r rheoliadau ar wefan Llywodraeth Cymru.