Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi rhyddhau canlyniadau astudiaeth ar drafnidiaeth cyhoeddus yng Nghymru a darganfu problemau mawr i bobl anabl a phobl oedrannus yng Nghymru

Mae’r adroddiad Trafnidiaeth Cyhoeddus Hygyrch i bobl anabl a hŷn yng Nghymru  a gyhoeddwyd ar 1 Rhagfyr 2020 yn darganfod nad oedd ystyriaethau cydraddoldeb i bobl anabl a hŷn wedi derbyn digon o bwysigrwydd mewn trafnidiaeth cyhoeddus yng Nghymru.

Mae’r adroddiad yn seiliedig ar gyfres o grwpiau ffocws gyda phobl anabl a hŷn yn ogystal â chyrff yn cynrychioli’r grwpiau yma.

Fe wnaeth Anabledd Dysgu Cymru gymryd rhan mewn un o’r grwpiau ffocws.

Dywedodd pobl anabl a hŷn wrthym bod y system trafnidiaeth cyhoeddus yng Nghymru yn anhygyrch yn gyffredinol. Roedden nhw’n wynebu amrediad eang o rwystrau i deithio oddi mewn i system nad oedd yn cydymffurfio gyda’r model cymdeithasol o anabledd, nac yn cefnogi eu hannibyniaeth. O ganlyniad, roedden nhw’n teimlo bod eu cyfleoedd yn cael eu cyfyngu a’u bod wedi cael eu gadael ar ôl.

I drafnidiaeth cyhoeddus ddod yn fwy hygyrch a chynhwysol rhaid i gyrff cyhoeddus ddatblygu a darparu camau gweithredu sydd yn ymateb i anghenion pobl anabl a hŷn. Dengys yr ymchwil yma y bydd gwell ystyriaeth ac integreiddio cydraddoldeb i strategaethau a pholisïau trafndiaeth, gan ddefnyddio dyletswyddau penodol Cymru fel canllaw, yn sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn ateb nodau’r Dyletswydd Cydraddoldebau Sector Cyhoeddus ac adeiladu system trafnidiaeth cyhoeddus hygyrch a chynhwysol yng Nghymru.

Mae’r adroddiad llawn yn Gymraeg a Saesneg ar gael  ar wefan EHRC yma