Yn y Gymru fodern heddiw dylai pobl ag anabledd dysgu allu byw bywydau modern. Nod ein prosiect 5 blynedd mawr Pobl yr 21ain Ganrif yw gwneud hyn yn bosibl drwy gyd-greu dewisiadau, cyfleoedd a chefnogaeth i bobl ag anabledd dysgu.
1 Ebrill 2020 – 31 Mawrth 2025. Wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru


Mae Pobl yr 21ain Ganrif yn dathlu pobl ag anabledd dysgu fel creaduriaid, cyfranwyr a dinasyddion Cymru, tra’n herio stereoteipiau sy’n bodoli eisoes.
Bellach yn ei bumed flwyddyn, mae Pobl yr 21ain Ganrif yn cyflawni 4 thema allweddol:
- Teuluoedd yr 21ain Ganrif
- Lleisiau’r 21ain Ganrif
- Pobl Iach yr 21ain Ganrif
- Byw yn yr 21ain Ganrif.
Gallwch gael gwybod am yr holl waith rydym yn ei wneud ym mhob thema isod.
Rydym yn gweithio gyda rhwydweithiau, partneriaid, sefydliadau prif ffrwd a gwneuthurwyr newid presennol a newydd, o fewn a thu allan i fyd anabledd. Gyda’n gilydd rydym yn gweithio i wneud Cymru’r wlad orau yn y byd i bobl ag anabledd dysgu fyw, dysgu a gweithio ynddi.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost i enquiries@ldw.org.uk
Mae rhieni ag anabledd dysgu a’u plant yn profi gwahaniaethu ac anfantais sylweddol. Er bod arfer cadarnhaol wedi’i sefydlu o ran cefnogi’r rhieni hyn, mae’r ddarpariaeth yn dal yn wael.
Mae ein prosiect Caru Bywyd yn gweithio i ddiweddaru rhaglen hyfforddi ar berthnasoedd a rhywioldeb dan arweiniad hyfforddwyr ag anabledd dysgu.

Mae gennym flynyddoedd lawer o brofiad yn Anabledd Dysgu Cymru 
Ni yw ysgrifenyddiaeth y
Mae ymchwil wedi dangos, ar gyfartaledd, fod merched ag anabledd dysgu yn marw 27 mlynedd yn iau na’r rhai heb anabledd dysgu a bod dynion ag anabledd dysgu yn marw 22 mlynedd yn gynharach na dynion yn y boblogaeth gyffredinol.
Mae ymarfer cyfyngol yn golygu gwneud i rywun wneud rhywbeth nad yw’n dymuno ei wneud neu atal rhywun rhag gwneud rhywbeth maen nhw am ei wneud. Mae rhai pobl ag anabledd dysgu yn cael eu hatal fel hyn drwy ddefnyddio ataliad corfforol, amgylcheddol, seicolegol, meddyginiaeth neu neilltuaeth. Credwn na ddylid gwneud hyn oni bai bod rheswm clir pam na ellir osgoi hyn.
Mae llawer o bobl ag anabledd dysgu yn unig ac wedi’u hynysu yn gymdeithasol. Rydym yn gweithio i newid hyn. Cysylltiadau Cymru yw ein rhwydwaith ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn mynd i’r afael â’r materion sy’n creu unigrwydd ac arwahanrwydd.
Technoleg Bersonol yw unrhyw dechnoleg y gall rhywun ei defnyddio i gynyddu ei hannibyniaeth. Mae llawer o wahanol fathau o dechnoleg mae pobl yn eu defnyddio o ffonau clyfar a siaradwyr clyfar i draciwr symudiad llygaid i ddefnyddio cyfrifiaduron ac offer arbennig eraill.

>
>