Mae’r prosiect Maeth a Lles yn darparu hyfforddiant unigol gyda chynlluniau a chynor am bwyd.

Mae’r rhaglen Maeth a Lles yn brosiect a lansiwyd gan Dimensions, gyda’r nod o gynyddu canlyniadau iechyd cadarnhaol i bobl ag anableddau dysgu ac awtistiaeth. Sefydlwyd y prosiect i wella iechyd a lles pobl a gefnogir gan Dimensions ac i ddarparu adnoddau a gwybodaeth am faeth i gefnogi gweithwyr ar draws y sefydliad. Mae pob gwirfoddolwr yn mynd trwy broses fetio cyn ymgymryd â gweithgareddau gwirfoddoli.

Collodd Natasha dros ddwy stôn

Un o’r bobl a gymerodd ran yn y rhaglen yw Natasha, sydd yn byw yn Gaerdydd. Roedd hi wedi rhoi ar rhywfaint o bwysau yn ystod y cyfnod clo ond gyda diolch i gynllun maeth ac ymarfer corff a ddatblygwyd gan y gwirfoddolwr Nazmin, collodd Natasha dros ddwy stôn.

Dywedodd Nazim: “Roedd gan y cynllun dri phrif nod: osgoi syched trwy yfed dau litr o ddŵr y dydd, bwyta pum ffrwyth a llysiau y dydd, a gwneud 30 munud o ymarfer corff y dydd. Roedd yn werth chweil gweld pa mor effeithiol oedd hyn i Natasha. Fe gollodd hi fwy o bwysau nag yr oeddem ni’n ei ddisgwyl!

Rwy’n falch iawn gyda’r cynnydd y mae Natasha wedi’i wneud. Dywed Natasha wrthyf ei bod yn teimlo’n well bob dydd o ganlyniad i’w cynnydd. Y gwahaniaeth mwyaf fu’r effaith ar y staff; mae eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth wedi cynyddu, ac maent yn teimlo y gallant gefnogi Natasha a’r bobl eraill yn y tŷ yn well. Mae hynny’n ganlyniad aruthrol.

Darllen stori Natasha >

Ffeithiau i deuluoedd

Gall timau cymorth a theuluoedd ddarllen y daflen ffeithiau i deuluoedd hon a meddwl beth allan nhw ei wneud yn wahanol i gefnogi pobl i fyw’n iach ac yn well.

Beth nesaf?

Mae Dimensions wedi recriwtio 24 o wirfoddolwyr maeth (gyda 25 arall ar y gweill) ledled Cymru a Lloegr. Byddant yn cefnogi eu timau i helpu unigolion i wneud dewisiadau cadarnhaol o ran bwyd a diod, a datblygu adnoddau newydd.

Dimensions Cymru