Fe wnaeth diwygio’r system anghenion addysgol arbennig yng Nghymru basio carreg filltir bwysig ar 23 Mawrth pan gymeradwywyd y Cod a’r rheoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) newydd gan y Senedd.

Pam mae hyn yn bwysig?

Er i Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysg (Cymru) gael ei phasio yn 2018, mae wedi cymryd amser i weithio allan sut yn union y bydd yn gweithio a sut y gall awdurdodau lleol ei weithredu. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer cychwyn y Ddeddf o fis Medi 2021, gyda’r system newydd yn cael ei chyflwyno fesul cam.

Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru baratoi Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol, ymgynghori arno a’i gyhoeddi. Mae’r Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol yn rhoi rheolau a chyngor i helpu awdurdodau lleol ac eraill i wneud yr hyn mae’r gyfraith yn dweud wrthynt.

Bydd y Cod ar gyfer meithrinfeydd sy’n derbyn arian gan yr awdurdod lleol, staff mewn ysgolion a cholegau, awdurdodau lleol a gwasanaethau iechyd.

Mae’r Cod ymarfer newydd yn cynnwys gofynion gorfodol a rhaid rhoi sylw dyledus i ganllawiau i gyrff cyhoeddus a darparwyr addysg a hyfforddiant eraill, h.y. rhaid iddynt beidio â’i anwybyddu.  Bydd awdurdodau lleol yn parhau i fod yn gyfrifol am sicrhau bod Cynlluniau Datblygu Unigol (CDU) yn cael eu datblygu ar gyfer y plant a’r bobl ifanc hynny sydd angen un ac am sicrhau bod y ddarpariaeth y mae’n ei hargymell yn cael ei rhoi ar waith.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Yn dilyn cymeradwyaeth y Senedd i’r Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol a’i reoliadau bydd Llywodraeth Cymru nawr yn cyhoeddi gorchymyn cychwyn – sy’n golygu y daw’r Cod i rym ar 1 Medi 2021.

Bydd y ddeddfwriaeth yn cael ei chyflwyno’n graddol, gyda’r system newydd yn cael ei chyflwyno o fis Medi 2020. O hynny ymlaen, bydd dysgwyr newydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol yn cael eu cefnogi gan y system newydd, a bydd dysgwyr sy’n defnyddio’r hen system (AAA) yn pontio dros gyfnod o dair blynedd.

Beth yw’r gyfraith newydd?

Mae Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 yn disodli’r fframwaith Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) presennol gyda system wedi’i diwygio. Mae’r gyfraith newydd yn cynnwys plant a phobl ifanc ag angen dysgu ychwanegol hyd at 25 mlwydd oed.

Mae’r Ddeddf yn darparu ar gyfer Cynlluniau Datblygu Unigol statudol cyffredinol ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, ac yn integreiddio’r trefniadau ar wahân sy’n bodoli ar hyn o bryd ar gyfer disgyblion mewn ysgolion a myfyrwyr ôl-16 mewn colegau.

Gyda’i gilydd mae’r rhain yn cefnogi tri amcan trosfwaol Deddf 2018 sef:

fframwaith deddfwriaethol unedig sy’n cefnogi pob plentyn o oedran ysgol gorfodol neu ieuengach gydag ADY, a phobl ifanc ag ADY yn yr ysgol neu mewn addysg bellach;

proses integredig, gydweithredol o asesu, cynllunio a monitro sy’n hwyluso ymyriadau cynnar, amserol ac effeithiol; a system deg dryloyw ar gyfer darparu gwybodaeth a chyngor, ac ar gyfer datrys pryderon ac apeliadau.

Cysylltiadau defnyddiol

Esboniad hawdd ei ddeall o Fil Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysg (Cymru)

Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021