Rydyn ni am i Gymru fod y wlad orau yn y byd ar gyfer pobl gydag anabledd i fyw, dysgu a gweithio ynddi.  Mae ein gwaith polisi yn chwarae rôl canolog yn hyn trwy ddylanwadu ar y llywodraeth er mwyn i bobl gydag anabledd dysgu allu mwynhau’r un hawliau â phawb arall yng Nghymru.

Rydyn ni’n gwneud hyn trwy weithio gyda phobl gydag anabledd dysgu a’u teuluoedd, Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, sefydliadau pobl anabl a’r sector gwirfoddol er mwyn i ni greu Cymru well ar gyfer y bobl gyd gydag anabledd dysgu.

Mae gwaith polisi yn rhan canolog o gyflawni’r weledigaeth yma. Rydym yn gweithio’n weithredol i:

  • Creu cymdeithas sydd yn cynnwys, gwerthfawrogi a pharchu pobl gydag anabledd dysgu
  • Creu system addysg gynhwysol i blant ac oedolion gyda a heb anabledd dysgu.
  • Cau’r bwlch cyflogaeth anabledd dysgu.
  • Creu system wleidyddol lle mae deddfau, polisi ac arferion yn cael eu cydgynhyrchu gyda phobl ag anabledd dysgu a lle mae gan bobl gydag anabledd dysgu reolaeth gwirioneddol dros wneud penderfyniadau sydd yn effeithio arnyn nhw.
  • Sicrhau bod gan bobl gydag anabledd dysgu reolaeth dros eu bywydau eu hunain.

Gallwch nawr ddarganfod ein gwaith polisi ar ein tudalen polisi newydd  lle rydym yn casglu ein holl ddatganiadau polisi ac ymatebion i ymgynghoriadau yn ogystal â datganiadau gan eraill a gefnogwn. Mae gwybodaeth yno hefyd ar yr hyn rydym yn gweithio arno ar hyn o bryd, er enghraifft ymgynghoriadau agored rydym yn mynd i ymateb iddyn nhw.

Mae’r pandemig coronafeirws wedi effeithio ar bob maes o’n gwaith polisi. Mae ein holl waith yn benodol am coronafeirws ar gael ar ein tudalen adnoddau coronafeirws.

Am ragor o wybodaeth am ein gwaith polisi, cysylltwch os gwelwch yn dda gyda ein Swyddog Polisi Grace Krause. E-bost grace.krause@ldw.org.uk neu ffôn 029 2068 1160.

 

Cliciwch yma i fynd i’r dudalen polisi newydd