Ni eisiau mwy o bobl ag anabledd dysgu i ddweud eu dweud mewn astudiaeth genedlaethol ar draws y DU.

Dywed Gerraint Jones Griffiths, Llysgennad Arweiniol Engage to Change a gweithiwr allgymorth Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan “Roedd y cyfweliad mor hawdd, nid oedd angen i mi wneud unrhyw beth, dim ond siarad.”

Os chi’n gwylio’r fideo hon ac yn meddwl byddai ddim ots gyda fi gymryd rhan yn yr astudiaeth yma, plîs gwnewch. Mae’n gyfle gwych.”

Plîs ystyriwch gymryd rhan yn yr astudiaeth. Ni allaf fynegi faint mae angen iddyn nhw glywed eich llais a pa mor bwysig yw’r cwestiynau.

Beth yw’r astudiaeth??

Astudiaeth blwyddyn yw hon sy’n cynnwys ymchwilwyr a sefydliadau ledled y DU i ddarganfod ac adrodd ar sut mae coronafeirws yn effeithio ar fywydau pobl ag anabledd dysgu.

Yng Nghymru bydd ymchwilwyr o Brifysgol De Cymru a Phrifysgol Caerdydd yn cynnal yr astudiaeth gyda chymorth Anabledd Dysgu Cymru, Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan a Phobl yn Gyntaf Cymru Gyfan.

Gallwn yna ddefnyddio’r wybodaeth i helpu i wneud pethau’n wahanol yn y dyfodol. Mae gwersi i’w dysgu ac mae angen i bobl wrando.

Rydyn ni eisiau clywed gan bobl:

  • Sydd gydag anabledd dysgu
  • Chi’n byw gyda rhywun sydd gyda anabledd dysgu a all cael ei chyfweld gyda chefnogaeth
  • Chi’n gweithio gyda rhywun sydd gyda anabledd dysgu a all cael ei chyfweld gyda chefnogaeth

Cymryd rhan

Llenwch ein Ffurflen Mynegi Diddordeb hawdd ei deall os ydych gyda diddordeb.

Drwy roi eich manylion cyswllt i ni, rydych chi ond yn dweud bod gennych ddiddordeb mewn darganfod mwy am yr astudiaeth ymchwil. Nid yw’n golygu eich bod yn cytuno i gymryd rhan ynddo.

Allwch darganfod mwy o wybodaeth ar cymryd rhan trwy gysylltu a:

Mwy o wybodaeth

Gwefan astudiaeth y DU

Gwybodaeth Hawdd ei Ddeall i gyfranogwyr

Gwybodaeth briffio Hawdd ei Ddeall ar yr astudiaeth