Mae Anabledd Dysgu Cymru yn falch iawn o groesawu dau aelod newydd o staff i’n tîm. Heddiw cawn glywed gan Gerraint Jones-Griffiths, Llysgennad Arweiniol ein prosiect Engage to Change.

Gallwch ddarllen am Sophie Williams, ein swyddog cyfathrebu Engage to Change newydd, yma


Fy enw i yw Gerraint Jones-Griffiths. Fi yw Llysgennad Arweiniol y prosiect Engage to Change ac rwyf wedi bod yn gwneud y gwaith hwn ers mis Mawrth 2018.

Fy mhrif rôl erioed fu siarad â chyflogwyr, canolfannau gwaith, pobl ifanc, rhieni a gofalwyr, colegau a phrifysgolion. Rwyf hefyd wedi mynychu digwyddiadau ac wedi rheoli stondinau arddangos i siarad â phobl yn y digwyddiad hwnnw am y prosiect. Rwy’n mwynhau siarad â phobl felly dyma’r rôl berffaith i mi!

Pan ddechreuais y swydd roeddwn i’n cael fy nghyflogi gan Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan a oedd yn bartner yn y prosiect ond newidiodd hyn yn ddiweddar. Mae Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan bellach yn cydweithio â’r prosiect ond fel sefydliad allanol i helpu i gael adborth ar y gwaith rydyn ni’n ei wneud.

Rwy’n hapus iawn fy mod wedi dychwelyd i Anabledd Dysgu Cymru, gan mai fi oedd gweinyddwr y prosiect ar gyfer Engage to Change o’r blaen, o 2016-2018. Rwyf hefyd wedi cadeirio cynhadledd flynyddol Anabledd Dysgu Cymru sawl gwaith ers 2012.

Yr hyn yr wyf wedi’i ddysgu o weithio gyda’m cyd-weithwyr gwych yw fy mod yn disgwyl unwaith i mi gadeirio’r gynhadledd flynyddol, dyna hi.  O roeddwn i’n anghywir! Unwaith maen nhw wedi eich cael i mewn, ni allant adael i chi fynd a dyna fu fy stori yn gweithio gyda’r tîm!

Rwy’n gweithio’n agos gyda rheolwr y prosiect Angela Kenvyn a gyda Swyddog Cyfathrebu y prosiect, Sophie Williams.

Rwy’n awyddus iawn i weithio ar ddylanwadu ar strategaeth – mae hyn yn golygu fy mod am i’r prosiect Engage Change adael gwaddol ar ba mor llwyddiannus y bu.

Rwyf hefyd yn gobeithio mynd i ysgolion a cholegau i siarad am y prosiect; i ddysgu mwy am yr uchelgeisiau gwahanol sydd gan bobl ifanc yng Nghymru, a sut mae coronafeirws wedi effeithio ar eu huchelgeisiau.

Rwy’n ymwneud â Chlwb Bowlio Parc Bedwellty. Rwy’n chwaraewr ac wedi bod ers 2016 – enillais gystadleuaeth parau’r clwb yn fy nhymor 1af. Rwy’n cynrychioli’r clwb pan fyddaf yn chwarae gemau cystadlu i Gymdeithas Bowlio Sir Fynwy ac rwy’n cynrychioli’r clwb fel tîm ar gyfer Cymdeithas Bowlio Ardal Cwm Sirhywi a Rhymni.

Eleni fydd y cyfle cyntaf a’r olaf i fynychu Academi Sir Fynwy dan 25 mlwydd oed.  Pan fydda i’n dweud yn derfynol beth rwy’n ei olygu yw y byddaf yn rhy hen y flwyddyn nesaf! Cofiwch, rwy’n teimlo’n  hen nawr 😊  Fi hefyd yw rheolwr cyfryngau cymdeithasol y clwb – mae hyn yn golygu fy mod yn rheoli e-bost, gwefan, a thudalennau cyfryngau cymdeithasol Facebook, Twitter ac Instagram y clwb.

Rwyf hefyd yn aelod sy’n canu yn fy nghôr lleol sef Côr Meibion Orpheus Tredegar. Rwyf yn adran y Bariton neu’r Bas Top, ac eto rwy’n rheoli tudalennau Facebook a Twitter y côr.  Rwyf hefyd yn gyflwynydd radio ar gyfer fy ngorsaf radio leol BGFM gan mai fy nghariad a’m hangerdd dros gerddoriaeth yw’r prif beth sy’n fy nghadw i’n mynd bob dydd, -does byth 1 diwrnod sy’n mynd heibio lle nad ydw i’n chwarae unrhyw gerddoriaeth tra fy mod i’n gweithio gartref.

Rwyf hefyd yn frenhines drag (nid yn broffesiynol) rhywbeth rwyf wedi’i wneud i ddiddanu ffrindiau a theulu yn ystod y cyfyngiadau symud. Rwyf wedi bod yn cynnal digwyddiadau byw rheolaidd ar Facebook, ond mae’r rhain wedi’u rhewi wrth i’r cyfyngiadau symud ddod i ben.

I ddysgu mwy am y prosiect Engage to Change anfonwch e-bost ataf trwy gerraint.jones-griffiths@ldw.org.uk, neu ffoniwch 029 2068 1160.

person in front of radio microphone