Headshot photos ofAdrian Burke, Nigel Bowen, Tudor Davies, Michael Mainwaring, Dave Bingham, and Richard Griffiths

Mae Anabledd Dysgu Cymru yn falch o gael 25 o redwyr yn codi arian i Ffrindiau Gig Cymru yn Hanner Marathon Caerdydd ym mis Mawrth – yn cynnwys 6 o redwyr o brif gyllidwr ein prosiect, First Choice Housing. Gan ddechrau heddiw rydym yn rhoi sylw i’n rhedwyr, yn cynnwys dolenni i’w tudalennau codi arian i unrhyw un sydd yn dymuno eu cefnogi.

Mae Ffrindiau Gig Cymru yn paru oedolion gyda a heb anabledd dysgu sydd yn rhannu’r un diddordebau fel eu bod yn gallu mynd i gigiau a digwyddiadau gyda’i gilydd. Mae’n ddull syml ac  effeithiol iawn o ddelio gydag unigrwydd ac ynysigrwydd, tra’n creu ffrindiau newydd sydd yn gallu mwynhau’r celfyddydau, chwaraeon a phrofiadau newydd gyda’i gilydd.

Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr a chyfranogwyr newydd yn Ynys Môn, Pen-y-bont, Caerdydd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, Bro Morgannwg a Wrecsam. Dysgwch ragor a gwnewch gais i fod yn Ffrind Gig yma .

O nawr tan Hanner Marathon Caerdydd ar ddydd Sul 27 Mawrth fe fyddwn yn rhoi sylw i’r rhedwyr sydd yn codi arian i Ffrindiau Gig. Rydym yn dechrau heddiw gyda Chymdeithas Tai First Choice sydd wedi cyllido ffrindiau Gig ers inni lansio’r prosiect yng Nghymru yn 2018..

Mae gan First Choice 6 o redwyr yn rhedeg yn Hanner Marathon Caerdydd dros Ffrindiau Gig: Prif Swyddog Gweithreddol Adrian Burke, Nigel Bowen, Tudor Davies, Michael Mainwaring, Dave Bingham, a Richard Griffiths. Gallwch gefnogi eu hymdrech codi arian yma.

Dywedodd Nigel Bowen, Rheolwr Tai Gweithrediadol yn First Choice, “Mae First Choice wedi bod yn falch iawn o gefnogi a darparu cyllid i Ffrindiau Gig Cymru ers 2018. Mae gweithrediadau, nodau a chanlyniadau Ffrindiau Gig Cymru yn uniongyrchol gysylltiedig gyda gwerthoedd y Gymdeithas. Mae First Choice wedi bod yn ddarparydd tai i bobl gydag anabledd dygsu ers dros 30 mlyne3dd. Rydym yn credu’n angerddol mewn hyrwyddo hawliau ein tenantiaid – a’r holl bobl gydag anabledd dysgu – i allu mwynhau pob agwedd ar fywyd  .

“Mae First Choice yn cytuno gyda safiad y Comisiwn Hawliau Anabledd y dylai pob person gydag anabledd dygsu gael cyfleoedd cyfartal i gymryd rhan a chyfrannu fel dinasyddion cyfartal ym mywyd cymdeithasol, economaidd, sifig a chymunedol y wlad. Credwn bod Ffrindiau Gig Cymru yn chwarae rhan allweddol mewn helpu i gyflawni hyn i bobl gydag anabledd dygsu.

“Mae chwech aelod o dîm staff First Choice yn rhedeg yn Hanner Marathon Caerdydd eleni i godi ymwybyddiaeth o’r gwaith ardderchog y mae Ffrindiau Gig Cymru yn ei wneud – ac rydym yn croesawu unrhyw roddion i helpu i’n cymell ymhellach ar gyfer beth fydd yn sicr yn ddiwrnod gwych.  Mae’r hyfforddiant yn mnd yn dda ond mae llawer o waith caled eto i’w wneud. Allwn ni didm aros i ymuno gyda gweddill y rhedwyr sydd yn cynrychioli Ffrindiau Gig Cymru ar 27 Mawrth.”

Cefnogwch ein rhedwyr

Gallwch ddarganfod rhagor am ein holl redwyr a chyfrannu at eu tudalen codi arian LocalGiving drwy’r dolenni isod: 

First Choice Housing – Adrian, Nigel, Tudor, Michael, Dave, Richard, Mike 

Danielle Wood 

Daryl Watts

Iwan Good 

James Simonson 

Jane Watkinson 

Jimmy Watkins 

Jim Wilcox 

Laura Griffiths 

Lynne Davies 

Madison Shaddick 

Mark Twaits 

Michael Thomas 

Naomi Edge 

Rachel Somerville 

Richard Davies

Rick Wilson 

Ruth Northway 

Sarah Hoss 

Sion Brook 

Sydney South