Rydym yn falch o gyflwyno tri aelod newydd o’n tîm staff yn Anabledd Dysgu Cymru: Rhian McDonnell (Swyddog Cyfathrebiadau Hygyrch), Iwan Good (Cydlynnydd Aelodaeth, Dogwyddiadau ac Ymgysylltu), a Nicola Alsept (Gweinyddydd Cyllid).

Fe wnaethom ofyn i Michael, Rhian, Iwan a Nicola ddweud wrthym ni amdanyn nhw eu hunain a’u rolau yn Anabledd Dysgu Cymru. Rydych chi’n gallu darllen proffil Iwan yma, proffil Nicola ymae, proffil Rhian ymae.


Michael with his Gig Buddy at a gig taking a selfie while a band plays on stage behind themMichael

Rydw i wedi bod yn gweithio yn Anabledd Dysgu Cymru am ychydig fisoedd nawr. Rydw i’n gweithio fel glanhawr yn swyddfa Anabledd Dysgu Cymru yn Llanisien, Caerdydd. Fy rôl ydy cadw’r swyddfa yn lân ac yn daclus.

IRydw i’n hoffi’r rôl oherwydd mae’n fy nghadw yn brysur. Mae bod yn rhan o’r corff yn bwysicach imi na beth rydw i’n ei wneud yn fy swydd. Mae gennyf gysylltiad gydag Anabledd Dysgu Cymru sydd yn bwysig imi. Oherwydd y bobl rydw i’n gweithio gyda nhw ac rydw i’n hoffi gweithio gyda phawb. Rydw i’n hoffi gweithio gydag Anabledd Dysgu Cymru oherwydd rydw i wedi dod o’r un cefndir addysgol.

Roeddwn i’n arfer bod yn ymddiriedolwr i Anabledd Dysgu Cymru ac fe wnes i stopio gwneud hyn er mwyn imi allu dechrau’r swydd. Yn y gorffennol roeddwn i’n gweithio i Mencap Cymru fel cynorthwy-ydd gweinyddol a glanhawr. Ar ddechrau fy ngwaith yn Mencap Cymru roeddwn yn cael cefnogaeth gan y prosiect Engage to Change. Yn ddiweddarach fe wnes i ddod yn llysgennad i Engage to Change, yn hyrwyddo’r prosiect mewn digwyddiadau cyhoeddus.

Fy niddordebau ydy Kayakio a gwirfoddoli ym Mharc Bute ar y prosiect Gardd Salad sydd yn cynnwys tyfu salad i fwytai.

Rydw i’n Ffrind Gigiau ac yn mwynhau adeiladu cysylltiadau cymdeithasol drwy Ffrindiau Gigiau. Y cof sydd yn sefyll allan ydy mynd i weld y band TV Priest yn Clwb Ifor Bach, gan fod Ffrindiau Gigiau wedi defnyddio ffotograff ohonof yn y gig yn eu taflen.

Rydw i hefyd yn mwynhau treulio amser gyda fy nheulu.