Yn ystod mis Balchder, neilltuodd Taylor amser i fyfyrio ar eu taith i ddarganfod eu bod nhw’n anneuaidd a pham mae hunaniaeth yn bwysig iddyn nhw.

Ar gyfer Mis Pride roeddwn eisiau siarad am fy mhrofiad fel rhan o’r gymuned LGBTQ+. Mae’n bwysig imi rannu fy stori i bobl LGBTQ+ eraill sydd ag anabledd dysgu.

Fy mhlentyndod a fy Ieuenctid

Taylor waving a Lesbian Pride flag and wearing a transgender heart t-shirt Imi, dechreuodd hyn pan oeddwn yn ifanc iawn. Pan roeddwn yn tyfu i fyny roeddwn yn teimlo bod rhywbeth ar goll yn fy mywyd, fel fy mod yn wahanol i blant eraill ond doeddwnn i ddim yn deall pam. Yn hytrach na chwarae gyda Barbies, roeddwn yn chwarae gyda cheir. Yn hytrach na gwisgo sgerti a ffrogiau roedd yn well gennyf wisgo trowsus a joggers. Weithiau byddai angen imi wisgo sgerti a ffrogiau oherwydd fy rhieni, er mwyn eu gwneud yn hapus. Roeddwn hefyd yn mwynhau gweithgareddau fel rygbi, pêl fasged a phêl rwyd.

Pan oeddwn yn fy arddegau aeth pethau’n anodd imi o ran pwy oeddwn i yn yr ysgol ac adref. Dechreuais gwestiynu fy rhywioldeb ac ar ôl peth amser fe wnes ddod i’r casgliad fy mod yn Ddeurywiol oherwydd ar y pryd roeddwn i’n hoffi dynion a menywod. Roedd dweud wrth bobl fy mod yn Ddeurywiol yn anodd. Roedd rhai o’m ffrindiau yn gefnogol ac eraill ddim ac yn siarad y tu ôl im cefn am y sefyllfa.

Darganfod fy hunaniaeth rhywedd

Felly ymlaen i 2020 yn ystod y pandemig. Roedd gennyf lawer o amser imi fy hun a fy meddyliau. Roeddwn wedi profi pethau personol adref ac roedd gennyf broblemau teulu. Un diwrnod ra’n cael un o’r cyfnodau meddwl yma, dechreuais feddwl am rai sefyllfaoedd pan oeddwn yn tyfu i fyny ac roeddwn yn dal i deimlo’r un fath, fod rhywbeth ar goll ynghylch â phwy ydw i.

Rwyf wedi gwneud rhywfaint o ymchwil am y mathau o bethau roeddwn yn meddwl amdanyn nhw a dyna pryd y dechreuais gwestiynu fy hunaniaeth rhywedd gan nad oeddwn yn teimlo fel gwryw na benyw.  Roeddwn fel bawn i rhwng dau rywedd ac mae yna derm o’r enw anneuaidd sydd yn llythrennol yn golygu bod rhwng dau ‘brif’ rhywedd. Mae pawb yn profi eu hunaniaeth rhywedd mewn ffyrdd gwahanol. Dydy pob person anneuaidd ddim yn teimlo’r un fath. Gall hefyd fod yn sbectrwm, er enghraifft mae rhai pobl anneuaidd yn gallu teimlo ychydig tuag at y benywaidd neu’r gwrywaidd. Mae’n beth bynnag mae’n well ganddyn nhw fod.

Hefyd tua’r un amser ag y dywedais fy mod yn anneuaidd, rydw i wedi sylweddoli mai menywod ac nid dynion yr wyf yn eu hoffi. Buaswn yn dweud fy mod yn Lesbiad gan fod hynny yn gweddu’n well imi na thermau eraill. Ar hyn o bryd rydw i’n adnabod fel rhyweddhylifol a lesbiad. Mae bod yn rhyweddhylifol yn golygu eich bod yn teimlo fel dyn un diwrnod ond ar ddiwrnod arall gallech deimlo fel menyw. Ar rai dyddiau gallwch deimlo yn y canol fel anneuaidd er enghraifft.

Pa mor bell rydw i wedi dod

Hyd at heddiw rydw i’n falch o le rydw i wedi cyrraedd ac ers dod allan i fy ffrindiau a chydweithwyr maen nhw wedi fy nghefnogi ac maen nhw’n ceisio addysgu eu hunain a chael gwell dealltwriaeth o beth mae’r term anneuaidd yn ei feddwl a rhai o’r termau eraill sydd yn debyg. Mae gwneud hynny yn gwneud imi deimlo fy mod yn cael fy nerbyn ac mae’n gwneud imi deimlo’n fwy cyfforddus yn yr amgylcheddau yma.

Diolch am ddarllen! – Taylor (rhagenwau fe a nhw)

 

LGBTQ+ ydy lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsrywiol a queer. Mae’r plws yn golygu cyfeiriadeddau rhywiol eraill sydd yn rhan o’r gymuned LGBTQ+. Os ydych eisiau rhagor o wybodaeth am y pwnc yma gallwch ddarganfod canllaw Hawdd ei Ddeall yma (yn agor fel PDF). Os hoffech wybod rhagor am fod yn drawsrywiol gallwch ddarganfod canllaw Hawdd ei Ddeall yma (y nagor fel PDF).

Os ydych eisiau siarad gyda rhywun  am fod yn LGBTQ+ gallwch ffonio’r Llinell Gymorth LGBTQ+ ar 0300 330 0630. Mae rhagor o wybodaeth am gyrff a grwpiau all eich cefnogi ar wefan Stonewall Cymru.