Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi fersiwn hawdd ei ddeall ‘Llacio’r cyfyngiadau ar ein cymdeithas a’n heconomi: dal i drafod’, sydd yn mapio trywydd am ddod allan o’r cyfnod cloi yng Nghymru.

Mae’r cynllun hawdd ei ddeall, a gynhyrchwyd gan Anabledd Dysgu Cymru, yn manylu’r camau y mae Llywodraeth Cymru’n ystyried wrth iddi arwain Cymru allan o’r pandemig coronafeirws. Mae’r cynllun yn esbonio’r system goleuadau traffig am ddod allan o’r cyfnod cloi, a’r hyn sydd ei angen i ail-agor rhannau gwahanol o’r economi a’r gymdeithas y mae’n perthyn iddyn nhw.

  • Addysg a gofal i blant
  • Symud o gwmpas
  • Gweld teulu a ffrindiau
  • Ymarfer, chwarae chwaraeon a gemau
  • Ymlacio ac adegau arbennig
  • Gweithio neu redeg busnes
  • Mynd i siopa
  • Defnyddio gwasanaethau cyhoeddus
  • Mynd i leoedd fel yr eglwys

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y diwedderir y cynllun yn rheolaidd a byddan nhw’n dal i siarad â llawer o bobl o’n cymunedau, busnesau a gwasanaethau, i sicrhau eu bod nhw’n gwneud y penderfyniadau gorau.

Lawrlwythwch “Dod allan o gyfnod cloi coronafeirws yng Nghymru – hawdd ei ddeall”

Am yr wybodaeth ddiweddaraf am coronafeirws, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.