Bydd etholiad Senedd 2021 yn cael ei gynnal ddydd Iau 6 Mai 2021 i ethol 60 o aelodau i Senedd Cymru. Rydym wedi casglu’r maniffestos hawdd eu deall sydd wedi’u cynhyrchu hyd yn hyn gan y prif bleidiau gwleidyddol yng Nghymru, yn ogystal â chanllaw hawdd ei ddeall i bleidleisio yn etholiad y Senedd.

Maniffestos hawdd eu deall

Mae’r maniffestos hawdd eu deall canlynol wedi’u cyhoeddi hyd yn hyn gan y prif bleidiau gwleidyddol yng Nghymru. Byddwn yn ychwanegu mwy cyn gynted ag y byddant ar gael.

Canllaw hawdd ei ddeall i bleidleisio yn etholiad Senedd 2021

Mae’r canllaw hawdd ei ddeall hwn wedi’i gynhyrchu gan y Comisiwn Etholiadol yng Nghymru a Mencap. Mae fformatau hygyrch eraill, a’r fersiwn gwreiddiol, o’r canllaw ar gael yma. Os ydych chi angen unrhyw help i gael gafael ar fersiynau eraill o’r canllaw etholiadau, ffoniwch linell gymorth y Comisiwn Etholiadol ar 0800 3 280 280 neu e-bostiwch info@electoralcommission.org.uk.

Llinell Gymorth Pleidleisio

Mae Mencap Cymru’n ymestyn oriau Llinell Gymorth Anabledd Dysgu Cymru ar ddiwrnod etholiad y Senedd.  Bydd hi ar agor o 7yb tan 10yh ddydd Iau 6 Mai i helpu gydag ymholiadau am bleidleisio.  0808 8000 300 yw’r rhif am y llinell gymorth am ddim.