Mae Ffrindiau Gigiau Cymru yn gynllun cyfeillio sy’n paru pobl ag anabledd dysgu yn Ne Cymru* a Gogledd Cymru* gyda gwirfoddolwyr sy’n rhannu’r un diddordebau, fel y gallant fynd i gigiau a digwyddiadau gyda’i gilydd.

*Yn Ne Cymru rydym yn cwmpasu Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, a Bro Morgannwg. Yng Ngogledd Cymru rydym yn cwmpasu pob un o’r chwe sir – Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, a Wrecsam.


Wedi’i ariannu gan Gymdeithas Tai First Choice, WCVA a Lloyds Bank Foundation.


Collage of photos of Gig Buddy pairs at gigs, restaurants, the beach, and Pride, with the text volunteer as a Gig Buddy, make a new friend, go to gigs and social activities togetherMae gen i ddiddordeb mewn gwirfoddoli fel Ffrind Gigiau. Beth sydd angen i mi ei wneud?

Dychmygwch petaech yn gorfod mynd adref am 9yh bob tro ar noson allan!

Yn eich barn chi, a oes gan bawb yr hawl i fynd i’w hoff gigiau a digwyddiadau ac Aros i Fyny’n Hwyr? I lawer o bobl sydd ag anabledd dysgu, mae hynny’n amhosibl.

Gwirfoddolwch fel Ffrind Gigiau a gallwch newid hyn.

Fel Ffrind Gigiau gallwch ddefnyddio eich cariad at gerddoriaeth, y celfyddydau, chwaraeon, diwylliant a hwyl i helpu rhywun arall yn eich cymuned i gymdeithasu a mwynhau profiadau newydd.

Yn aml mae pobl sydd ag anabledd dysgu angen cymorth i’w helpu i fynd allan a mwynhau bywyd. Ond beth ddylech chi ei wneud pan nad yw’r cymorth ar gael, neu – yn waeth fyth! – pan nad yw’r un sy’n rhoi cymorth i chi yn rhannu’ch diddordebau?

Yn Ffrindiau Gigiau rydym yn paru pobl sy’n rhannu’r un diddordebau er mwyn iddynt fedru mynd gyda’i gilydd i’r un digwyddiadau.

Gall ychydig o oriau bob mis newid bywyd rhywun.

Beth fyddaf yn ei gael os byddaf yn dod yn wirfoddolwr Ffrindiau Gigiau?

Rydym yn rhoi hyfforddiant am ddim i chi a chyngor a chymorth parhaus i’ch helpu i fod yn Ffrind Gigiau gwych. Yn bwysicaf oll, byddwch yn cael ffrind newydd!

Sut ydw i’n gwneud cais i fod yn Ffrind Gigiau?

Os ydych chi’n byw yn un o’r ardaloedd rydyn ni’n eu cwmpasu(*), neu’n agos atynt, yna’r cyfan sydd angen i chi ei wneud yw llenwi a dychwelyd y ffurflen gais hon (dogfen Word). Bydd un o gydlynwyr ein prosiect wedyn yn cysylltu â chi ynglŷn â threfnu cyfweliad anffurfiol. (*Gweler brig y dudalen hon ar gyfer yr ardaloedd yr ydym yn eu cwmpasu)

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â thîm Ffrindiau Gigiau Cymru. E-bostiwch gigbuddies@ldw.org.uk, neu ffonio 029 2068 1160. 


 

Hoffwn gael Ffrind Gigiau. Beth sydd angen i mi ei wneud?

Mae’r pandemig yn fwy goddefadwy pan allwch fwynhau nosweithiau clwb rhithwir, partïon Zoom a chwisiau ar-lein gyda ffrindiau. Mae Ffrindiau Gigiau yn ffrind sy’n hoffi’r un pethau â chi.

Mae llawer o bobl ag anabledd dysgu a/neu awtistiaeth yn ei chael hi’n anodd mynd i gigiau a digwyddiadau – yn enwedig yn y nos pan fydd llai o gymorth ar gael.

Gall Ffrind Gigiau eich helpu i fynd i gigiau a digwyddiadau y gallech eu cael yn anodd eu mynychu. Gall ‘gig’ fod yn gyngerdd neu’n ŵyl. Ond gall hefyd fod yn gêm rygbi, taith i amgueddfa neu barc thema, neu ymweliad â’r traeth.

Cyn y pandemig roedd Ffrindiau Gigiau yn mynd i gigiau a digwyddiadau gyda’i gilydd unwaith y mis.

Mae’r pandemig wedi atal llawer o gigiau a digwyddiadau rhag digwydd. Felly mae Ffrindiau Gigiau yn cadw mewn cysylltiad ac yn cael hwyl drwy gyfarfod ar-lein. Mae llawer o bethau hwyliog y gallwch eu gwneud ar-lein gyda ffrindiau, fel nosweithiau clwb, gigs, partïon, cadw’n heini, cwisiau, theatr, gwylio ffilmiau, a llawer, llawer mwy!

Pan fydd hi’n ddiogel gwneud hynny, mae Ffrindiau Gigiau yn cwrdd yn yr awyr agored. A chyn gynted ag y gallwn bydd Ffrindiau Gigiau yn mynd yn ôl i fynychu gigiau, digwyddiadau a gwyliau gyda’n gilydd.

Mae gen i ddiddordeb. Felly beth mae Ffrind Gigiau yn ei wneud?

Byddwn yn dod o hyd i Ffrind Gigiau sy’n caru’r un pethau â chi. Felly gallai eich Ffrind Gigiau fod yn Ffrind Pêl-droed, yn Ffrind Ffilm, yn Ffrind Bowlio, yn Ffrind Crwydro, yn Ffrind Cwis, yn Ffrind Sglefr-rolio, yn Ffrind Syrffio. Eich lle chi yw dweud wrthym pa fath o Ffrind Gigiau rydych chi ei eisiau!

  • Yn ystod y pandemig, a phan nad yw’n ddiogel cwrdd, bydd eich Ffrind Gigiau yn eich helpu i ddod o hyd i bethau hwyliog i’w gwneud ar-lein. Yn ogystal â ffyrdd eraill o gadw mewn cysylltiad a chael hwyl nad ydynt yn golygu cwrdd yn yr awyr agored.
  • Pan fydd hi’n ddiogel gwneud hynny, gallwch gwrdd â’ch Ffrind Gigiau yn yr awyr agored. A gwneud pethau fel mynd am dro a mynd i gaffis.
  • Pan fydd hi’n ddiogel mynd i gigiau a digwyddiadau, bydd eich Ffrind Gigiau yn eich cefnogi i fynd i gigiau a digwyddiadau unwaith y mis.

Mae pob gwirfoddolwr Ffrindiau Gigiau yn cael diwrnod o hyfforddiant am ddim cyn iddynt gael eu paru â’u Ffrind Gigiau.

Ac rydym yn sicrhau bod gwirfoddolwyr Ffrind Gigiau yn cael gwiriad gan yr heddlu i sicrhau eu bod yn bobl ddiogel a da.

Dw i’n hoffi’r syniad hwn! Sut ydw i’n cael Ffrind Gigiau?

Ydych chi dros 18 mlwydd oed ac ydych chi’n byw yn un o’r ardaloedd hyn:

  • De Cymru: Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful, RhCT, Bro Morgannwg
  • Gogledd Cymru: Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd a Wrecsam.

Os ydych chi, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw llenwi’r ffurflen gais hawdd ei deall hon (dogfen Word) a’i hanfon at dîm Ffrindiau Gigiau Cymru.

Mae’r ffurflen yn gofyn pethau fel pa hobïau a diddordebau sydd gennych chi. A pha gymorth sydd ei angen arnoch chi.

Ar ôl i ni dderbyn eich ffurflen byddwn yn cysylltu â chi ac yn trefnu i gwrdd â chi am sgwrs. Mae hyn er mwyn i ni gael gwybod mwy amdanoch chi. Ac yna gallwn ddechrau dod o hyd i Ffrind Gigiau i’w paru â chi.

Mae gen i fwy o gwestiynau. Sut ydw i’n cysylltu â thîm Ffrindiau Gigiau Cymru?

Gallwch anfon e-bost atom yn gigbuddies@ldw.org.uk neu ein ffonio ni ar 029 2068 1160.

Ein tîm Ffrindiau Gigiau yw:

  • Cydlynwyr prosiect De Cymru: Kai Jones, Kylie Smith
  • Cydgysylltydd prosiect Gogledd Cymru: Sian Lloyd-Davies
  • Cydlynnydd gwirfoddoli: John Butterly
  • Gweinyddiaeth a chydlynnydd cyfathrebu: Danielle Wagstaff
  • Sgwirfoddolwr cyfryngau cymdeithasol: Victoria Waller
  • Rheolwr newyddbethau: Karen Warner

Gallwch hefyd ddilyn Gig Buddies Cymru / Ffrindiau Gigiau Cymru ar Facebook, Twitter a Instagram.