A young person wearing a blue denim boiler suit and wearing headphones, wearing the transgender flag as a cape. The flag has blue, pink and white stripes

Rydyn ni yn ymuno â Pride Cymru eleni i ddathlu pobl LHDTC+ yng Nghymru. Rydyn ni hefyd yn mynd oherwydd ein bod yn gwybod na allwn byth gymryd ein hawliau yn ganiataol. Rydyn ni yn poeni’n benodol y gallai pobl ag anabledd dysgu a phobl awtistig sy’n drawsryweddol golli mwy o hawliau.

Mae’r erthygl yma yn cynnwys geiriau anodd. Rydyn ni yn egluro beth mae’r rhain yn ei feddwl ar waelod yr erthygl.

Dathlu pobl LHDTC+ yng Nghymru

Mae Anabledd Dysgu Cymru a Ffrindiau Gigiau Cymru yn falch o ymuno â Pride Cymru eto eleni. Fe fyddwn ni yn cerdded yn yr orymdaith gyda Mencap Cymru, Innovate Trust ac artistiaid gwych House of Deviant. Os hoffech ymuno â ni e-bostiwch gigbuddies@ldw.org.uk neu ffoniwch 029 2068 1160.

Credwn ei bod yn bwysig dathlu a dangos ein cefnogaeth i bobl LHDTC+ yng Nghymru a rhoi cyfle i bawb ag anabledd dysgu ddathlu eu hunaniaeth yn ddiogel. Mae Anabledd Dysgu Cymru hefyd yn ymfalchïo mewn gweithio tuag at amgylchedd gwaith cefnogol a chynhwysol i’n staff. Mae mynychu Pride yn bwysig i lawer ohonom ddathlu ein hunain ac/neu ein cydweithwyr, ffrindiau ac aelodau o’r teulu LGBTQ+.

Mae Pride yn ddathliad o amrywiaeth a hawl pobl i fyw eu bywydau fel y maen nhw yn dewis. Ond mae’n bwysig cofio hefyd bod pobl wedi gorfod brwydro’n galed dros yr hawliau hyn ac nad ydy’r frwydr hon drosodd. Yn anffodus, mae’n edrych fel bod y frwydr hon yn mynd yn anoddach yn y DU yn ddiweddar ac mae gan hyn ganlyniadau a allai fod yn beryglus i bobl ag anabledd dysgu yng Nghymru.

Pam rydyn ni’n poeni?

Rydyn ni yn poeni bod rhai pobl yn awgrymu nad ydy pobl ag anabledd dysgu a phobl awtistig yn gallu gwneud penderfyniadau am eu cyfeiriadedd rhywiol, eu rhywioldeb a’u hunaniaeth rhywedd neu fynegiant eu hunain. Rydyn ni yn poeni bod rhai actifyddion a gwleidyddion yn dadlau, pan fydd pobl ag anabledd dysgu’n mynegi eu hunain, bod yn rhaid i hyn fod oherwydd bod rhywun yn dylanwadu arnyn nhw.

Un enghraifft o hyn ydy’r ffordd mae Drag Syndrome, grŵp o berfformwyr drag gyda Syndrom Down o Loegr, wedi cael eu trin yn ddiweddar.  Mae rhai pobl wedi dweud nad ydyn nhw yn gallu cydsynio i fod yn berfformwyr am fod ganddyn nhw anableddau dysgu. Er y gallai pobl feddwl eu bod yn amddiffyn pobl agored i niwed rhag cael eu cam-drin pan fyddan nhw yn dweud pethau fel hyn, maen nhw mewn gwirionedd yn cyfyngu ar y rhyddid i ddewis sydd gan bobl ag anabledd dysgu, ac yn niweidio gyrfaoedd yr artistiaid talentog iawn yma.

Eleni cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu Cynllun Gweithredu LGBTQ+ i Gymru. Rydyn ni yn hapus i weld bod y cynllun hwn yn cynnwys pob person LGTBQ+ ac rydyn ni yn gobeithio y gall gefnogi pobl ag anabledd dysgu i fyw’r bywydau y maen nhw yn eu dewis.

Ond, rydyn ni yn poeni, yn ystod cyfnod ymgynghori’r Cynllun Gweithredu yma, fod rhai actifyddion gwrth hawliau trawsryweddol wedi ysgrifennu am sut y gallai’r Cynllun fod yn niweidiol i fenywod cisryweddol awtistig a allai gael eu harwain ar gam at drosglwyddo i ddynion o dan y polisi hwn. Gan gymryd safbwynt rhyngwladol, rydyn ni hefyd yn ymwybodol bod cyfreithiau newydd mewn rhai taleithiau yn yr Unol Daleithiau yn mynnu bod yn rhaid sgrinio pobl drawsryweddol sydd am gael gofal cadarnhau rhywedd ar gyfer awtistiaeth.

Mae gan bawb yr hawl i fyw’r bywyd y maen nhw yn ei ddewis

Rydyn ni yn poeni bod rhai pobl eisiau defnyddio’r ffaith bod gan rywun anabledd dysgu neu awtistiaeth fel rheswm dros beidio â gadael iddyn nhw wneud penderfyniadau am eu bywydau eu hunain. Mae pawb yn haeddu byw’r bywyd maen nhw’n ei ddewis, i fod yn wir iddyn nhw eu hunain ac i garu pwy maen nhw’n ei ddewis. Rydyn ni yn ymuno â Pride Cymru eleni i ddathlu pobl LHDTC+ yng Nghymru ac oherwydd ein bod yn gwybod nad ydy ymladd dros hawliau cyfartal byth wedi gorffen. Mae hyn yn bwysicach nag erioed ar hyn o bryd.

Geiriau anodd

LGBTQ+

Mae LGBTQ+ yn sefyll am lesbiaid, hoyw, deurywiol, trawsryweddol, queer neu gwestiynu ac eraill. Dyma gymuned o bobl sydd â phethau yn gyffredin oherwydd pwy ydyn nhw a phwy maen nhw’n eu caru:

  • Mae lesbiaid yn fenywod sy’n cael eu denu at fenywod eraill.
  • Dynion hoyw ydy dynion sydd yn cael eu denu at ddynion eraill.
  • Mae pobl ddeurywiol yn cael eu denu at ddynion a menywod.
  • Person trawsryweddol neu drawsrywiol ydy rhywun nad yw ei rywedd yr un fath â’r rhyw a roddwyd iddyn nhw pan gawson nhw eu geni.
  • Weithiau mae queer wedi cael ei ddefnyddio fel gair drwg yn erbyn pobl LHDTC+, ond mae rhai pobl wedi dechrau ei ddefnyddio mewn ffordd gadarnhaol i ddisgrifio eu hunain. Er enghraifft, pan maen nhw’n teimlo nad ydy geiriau fel hoyw, hoyw, a lesbiaidd yn eu disgrifio.
  • Mae cwestiynu ar gyfer pobl sy’n gweithio allan pwy ydyn nhw a sut maen nhw’n adnabod eu hunain

Cisryweddol

Person y mae eu rhyw yr un fath â’r un oedd pobl yn meddwl ei fod pan gawson nhw eu geni.  Er enghraifft, galwodd eich meddyg neu rieni chi yn ferch fach pan gawsoch eich geni, ac fe wnaethon nhw ei gael yn iawn.

Anneuaidd

Mae hwn yn berson nad ydy ei rywedd yn cyd-fynd â syniadau arferol o’r hyn sy’n wrywaidd a beth sy’n fenywaidd. Mae person anneuaidd yn gallu teimlo neu wybod nad ydyn nhw’n ddyn nac yn fenyw.

Rhyw

Mae pobl yn rhyw arbennig oherwydd pethau corfforol fel organau rhyw a hormonau. Ond dydy rhyw rhai pobl ddim yn cyd-fynd â’r rhyw y cawson nhw eu geni ag ef.

Cyfeiriadedd rhywiol

Dyma sut mae person yn teimlo, yn rhywiol, am bobl eraill. Mae’n meddwl atyniad rhwng pobl.

Adnoddau Hawdd eu Deall

LGBTQ+ –  canllaw hawdd ei ddeall (PDF) – gan Change

Transgender – canllaw hawdd ei deall PDF) – gan Choice Support

Stonewall Riots (New York) – LGBTQ+ hawdd ei ddeall (PDF) – gan Mencap

Supported Loving – corff sydd yn canoli ar y person sydd yn cefnogi pobl gydag anabledd dysgu gyda materion ynghylch rhywioldeb a pherthnasoedd.