Mae gennym nifer prin o lefydd ar ôl i redwyr gael cymryd rhan yn Hanner Marathon hynod boblogaidd Caerdydd ym mis Hydref, ond heglwch chi – mae’r dyddiad cau i gofrestru gyda ni ddydd Iau 5 Medi.

Ymunwch â’n tîm o arwyr rhedeg wrth i ni wynebu Hanner Marathon Caerdydd 2019 ddydd Sul 6 Hydref a helpwch ni i ehangu ein prosiect Ffrindiau Gigiau ledled Cymru!

Beth fyddwch chi’n ei gael

Fel aelod o’r #TîmFfrindiauGigiau, cewch:

  • Fynediad am ddim i Hanner Marathon Caerdydd 2019
  • Fest redeg Ffrindiau Gigiau newydd sbon i’w gwisgo ar y diwrnod
  • Potel ddŵr Ffrindiau Gigiau
  • Cefnogaeth o’r ochrau o gwmpas y cwrs
  • Cit codi arian, yn cynnwys ffurflenni noddi
  • Cymorth parhaus i’ch helpu chi i gyrraedd eich targed codi arian

Cymerwch ran Am Ddim!

Mae cymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd 2019 am ddim fel rhan o Dîm Ffrindiau Gigiau! Y cwbl yr ydym yn gofyn yw eich bod yn codi lleiafswm nawdd o £300.

Cysylltwch â kai.jones@ldw.org.uk neu ffoniwch 029 2068 1160 a byddwn mewn cysylltiad â chi gyda rhagor o wybodaeth!

Codi arian

Gofynnwn i bawb sy’n cymryd rhan yn y ras wneud addewid i godi £300. Byddwn yn eich cefnogi chi i daro eich targed gyda llawer o awgrymiadau! I agor tudalen codi arian i Hanner Marathon Caerdydd 2019, pwyswch yma.

Eisoes wedi sicrhau’ch lle?

Gallwch barhau i godi arian i ni a’n helpu ni i wella bywydau pobl sydd ag anabledd dysgu! Byddwn yn anfon fest redeg Ffrindiau Gigiau a ffurflenni noddi atoch ac yn rhoi cymorth i chi daro’ch targed codi arian, a byddwn yno i’ch cefnogi chi ar hyd y ffordd!

I le fydd yr arian a godwyd gennych yn mynd?

Mae Ffrindiau Gigiau yn gynllun cyfeillio sy’n dwyn ynghyd bobl sydd ag anabledd dysgu a/neu awtistiaeth gyda gwirfoddolwyr sy’n rhannu’r un diddordebau, fel gallant fynd i gigiau a digwyddiadau gyda’i gilydd.

Dechreuasom Ffrindiau Gigiau yng Nghaerdydd yn 2018 ac rydym ar hyn o bryd yn ehangu’r prosiect i Ben-y-bont ar Ogwr, Bro Morgannwg a Rhondda Cynon Taf. Bydd rhedeg a chodi arian i ni yn Hanner Marathon Caerdydd yn ein helpu ni i gefnogi mwy o oedolion gyda Ffrind Gig yn yr ardaloedd hyn, yn ogystal â’n helpu ni i ehangu i lefydd eraill ledled Cymru.

Mae Ffrindiau Gigiau yn mynd i’r afael â materion cyffredin o arwahanrwydd cymdeithasol, unigedd a salwch ymysg pobl sydd ag anabledd dysgu, tra’n eu galluogi nhw i fynd i ddigwyddiadau megis gigiau, gemau chwaraeon, a’r celfyddydau, sydd fel rheol yn amhosibl iddynt fynychu heb gymorth – yn enwedig gyda’r nosau ac yn hwyr yn y nos.

Mae Ffrindiau Gigiau yn canolbwyntio’n benodol ar ddigwyddiadau a all ddigwydd gyda’r nosau, megis cyngherddau, er mwyn torri’r sawl rhwystr sy’n atal pobl sydd ag anabledd dysgu rhag mynd allan gyda’r nos ac aros ar eu traed yn hwyr.

Mae’r rhwystrau hyn yn cynnwys diffyg cefnogaeth, neu gymorth anhyblyg sy’n gorfodi pobl i adael digwyddiadau yn gynnar. Mae rhwystrau eraill yn cynnwys trafnidiaeth, hyder, diogelwch, a hygyrchedd lleoliadau a digwyddiadau. Yn bennaf, mae Ffrindiau Gigiau yn rhydd i ddewis pa ‘gig’ ac i le’r hoffant fynd.

Gall ‘gig’ fod yn gyngerdd neu ŵyl, ond gallai hefyd fod yn gêm rygbi, ymweliad â’r amgueddfa neu barc thema, neu fynd i’r traeth. Gall eich Ffrind Gig fod yn Fydi Pêl-droed, Bydi Bowlio, Bydi Crwydro, Bydi Cwis, Bydi Troed Rolio a Bydi Syrffio. Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd mynd i ddigwyddiadau a gigiau, gall Ffrind Gig wneud hyn yn bosibl i chi. Eich lle chi yw dweud pa fath o Fydi yr hoffech!

Dysgwch fwy ynglŷn â Ffrindiau Gigiau yma. Neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r tîm Ffrindiau Gigiau: anfonwch e-bost at gigbuddies@ldw.org.uk neu ffoniwch 029 2068 1160.