Rydyn ni wedi bod yn falch iawn o gael croesawu pum aelod newydd o staff i dîm Anabledd Dysgu Cymru yn ddiweddar. Dros yr wythnosau diwethaf rydyn ni wedi bod yn cyflwyno ein staff newydd ac yn gofyn iddyn nhw sut y bydd eu rolau’n ein helpu i greu Cymru sy’n gwerthfawrogi ac yn cynnwys bob plentyn, person ifanc ac oedolyn ag anabledd dysgu. Heddiw, rydyn ni’n croesawu ein Swyddog Polisi newydd, Grace Krause.

“Rydw i’n teimlo’n gyffrous iawn o gael ymuno â mudiad sy’n gallu bod mor falch o’u hanes o ymgyrchu dros hawliau pobl ag anableddau dysgu ac sydd wedi gwneud cymaint o wahaniaeth i fywydau pobl. Rydw i’n edrych ymlaen at chwarae fy rhan mewn parhau â’r gwaith rhagorol hwn a chefnogi Anabledd Dysgu Cymru i greu Cymru sy’n cynnig y cyfle i bob person ag anabledd dysgu fyw bywyd hapus, boddhaus ac urddasol.

“Cyn ymuno ag Anabledd Dysgu Cymru roeddwn i’n gweithio fel ymchwilydd ac ar hyn o bryd rydw i wrthi’n gorffen fy noethuriaeth mewn gwyddorau cymdeithas ym Mhrifysgol Caerdydd. Rydw i hefyd wedi gweithio fel gweithiwr cefnogi i bobl ag anabledd dysgu ac fel gweithiwr prosiect i Bobl Casnewydd yn Gyntaf a Phobl Caerdydd yn Gyntaf. Rydw i hefyd yn aelod prysur o undeb llafur yn Undeb y Prifysgolion a’r Colegau ble rydw i’n ymgyrchu dros amodau diogel yn y gwaith.

“Y llynedd canfuwyd fy mod i yn ddyslecsig a bod Anhwylder Diffyg Canolbwyntio arna i, sydd wedi gwneud i mi feddwl yn wahanol am lawer o bethau. Yn fwy na dim mae wedi fy ngwneud i’n ymwybodol o’r ffaith bod cymaint o’r profiadau gwael gefais i yn yr ysgol ac mewn addysg uwch yn ganlyniad i’r ffaith nad yw’r mannau hyn wedi’u creu ar gyfer pobl ag ymennydd fel fi. Mae hyn wedi gwneud i mi deimlo’n eithaf trist ond mae hefyd wedi gwneud i mi fod yn frwd dros newid pethau fel bo pawb yn cael y cyfle i ddatblygu yn fersiwn orau ohonyn nhw eu hunain.

“Rydw i’n teimlo’n angerddol dros newid cymdeithasol ac ynghylch dod o hyd i ffordd o sicrhau bod llais pawb yn cael ei glywed pan ddaw hi’n fater o greu’r byd rydyn ni’n byw ynddo. Rydw i’n gwybod bod llawer o rwystrau’n wynebu pobl ag anabledd dysgu yng Nghymru ac y gall pethau fynd yn fwy anodd yn y dyfodol.  Fy ngobaith yw y galla i wneud rhywbeth yn fy ngwaith yma i ddiogelu’r hawliau sydd wedi’u hennill yn y gorffennol a helpu pobl ag anabledd dysgu ymgyrchu i wneud hwn yn lle gwell i bawb.

“O fewn y misoedd nesaf byddaf yn ceisio cyfarfod â chymaint o bobl ag anabledd dysgu ac aelodau o Anabledd Dysgu Cymru â phosibl i’m cyflwyno fy hun a gweld beth sy’n bwysig i chi.

“Os oes gennych chi unrhyw beth yr hoffech i mi wybod amdano neu os hoffech i mi ymweld â’ch grŵp, cysylltwch â mi yn grace.krause@ldw.org.uk.

“Gallwch fy nilyn i ar Twitter yn @LDWPolicy, a byddaf yn ysgrifennu diweddariadau rheolaidd ar ein tudalen Facebook.”

Gwella sut rydym yn ymgysylltu gyda’r sector anabledd dysgu yng Nghymru

Gallwch ddarllen am yr aelodau eraill o’r staff sydd wedi ymuno yn ddiweddar gyda’n tîm yma:

Lyndsey Richards – Rheolwraig Prosiect
Rebecca Chan – Swyddog Gwybodaeth Hygyrch
Angela Kenvyn – Rheolwraig Prosiect Engage to Change
Rhobat Jones – Gweinyddydd

Mae Zoe Richards, ein Prif Weithredwraig dros dro wedi ysgrifennu am sut y bydd gan ein tîm sydd newydd ehangu effaith sylweddol ar ein gwaith, a sut rydym ym ymgysylltu gyda’r sector anabledd dysgu yng Nghymru.

Collage of 5 new members of staff

Our five new members of staff. (Clockwise from top left) Lyndsey, Angela, Grace, Rebecca and Rhobat