Blog y Prif Swyddog Gweithredol: Mae cau sefydliadau anabledd dysgu a gwasanaethau cymorth yn ddiweddar yn duedd bryderus

Mae ein Prif Swyddog Gweithredol Zoe Richards yn tynnu sylw at dueddiad bryderus rydym ni’n ei gweld yng Nghymru: cau nifer o sefydliadau anabledd dysgu, timau ymchwil a gwasanaethau cymorth. Mae hyn yn hynod bryderus o ystyried bod eu cau yn digwydd yn ddiarwybod i raddau helaeth. Fel sefydliad aelodaeth sy’n cynrychioli’r sector anabledd dysgu … Continued

‘Anhygyrch, annerbyniol ac anghyfrifol’: Mae elusennau’n galw am adolygiad brys o wasanaethau gofal ymataliaeth.

Mae adroddiad diweddar (Saesneg yn unig) gan Cerebra, elusen genedlaethol sy’n helpu plant â chyflyrau’r ymennydd, yn tynnu sylw at y methiant gan bob un o’r 3 llywodraeth ledled Cymru, Lloegr a’r Alban i ddarparu gwasanaethau ymataliaeth o ansawdd da i blant anabl a’u teuluoedd. Beth mae’r adroddiad ‘Anhygyrch, annerbyniol ac anghyfrifol’ yn ei gynnwys? … Continued

Cyflwyno Tammi Tonge, ein Aelod Senedd Ieuenctid newydd yng Nghymru

Rydym ni’n gyffrous i gyflwyno Tammi Tonge, ein Aelod Senedd Ieuenctid newydd yng Nghymru. Mae Tammi yn cynrychioli Anabledd Dysgu Cymru yn Senedd Ieuenctid Cymru rhwng Ionawr 2025 a Rhagfyr 2026. Materion allweddol Tammi yn y Senedd Ieuenctid Cymru yw: Cyfleoedd i bobl ifanc ag anableddau dysgu neu awtistiaeth. Heriau sy’n wynebu plant mewn gofal … Continued

Digwyddiad Cysylltiadau Cymru yn rhoi cipolwg ar wasanaethau dydd yng Nghymru

Mae Anabledd Dysgu Cymru yn bryderus iawn am y gostyngiad mewn gwasanaethau dydd dros y blynyddoedd diwethaf. Yng nghyfarfod diweddar ein rhwydwaith Cysylltiadau Cymru daethom â phobl ynghyd i archwilio sut mae’r ddarpariaeth wedi newid ers y pandemig a beth mae’r newidiadau hynny wedi ei olygu i’r bobl sy’n eu defnyddio. Sefydlwyd Cysylltiadau Cymru i … Continued

Pam rydyn ni’n mynd i Pride

Rydyn ni yn ymuno â Pride Cymru eleni i ddathlu pobl LHDTC+ yng Nghymru. Rydyn ni hefyd yn mynd oherwydd ein bod yn gwybod na allwn byth gymryd ein hawliau yn ganiataol. Rydyn ni yn poeni’n benodol y gallai pobl ag anabledd dysgu a phobl awtistig sy’n drawsryweddol golli mwy o hawliau. Mae’r erthygl yma … Continued

Mae pobl anabl angen cefnogaeth iechyd meddwl gwell

Rhoddodd Tegan Skyrme, Aelod Senedd Ieuenctid Cymru, araith yn y cyfarfod ym mis Rhagfyr ym Mae Caerdydd am pa mor anodd y mae’n gallu bod i bobl anabl dderbyn cefnogaeth gyda’u iechyd meddwl. Mae Tegan yn un o ddau o Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru sydd yn cael eu cefnogi ar hyn o bryd gan Anabledd … Continued

41 Cilgant Lamboure, Parc Busnes Caerdydd, Llanisien, Caerdydd, CF14 5GG
Ffôn 029 2068 1160 Ffacs 029 2075 2149 e-bost enquiries@ldw.org.uk
Ein partneriaid a'n cyllidwy