Cafwyd dyfarniad pwysig i’w groesawu yn ddiweddar gan yr Uchel Lys a oedd o’r farn bod gan ddau riant ag anabledd dysgu hawl gyfreithiol i eiriolaeth annibynnol wedi’i ariannu.

Rhieni ag anabledd dysgu

Mae’r achos yn cynnwys dau riant ifanc ag anabledd dysgu. Cyhoeddodd eu hawdurdod lleol achos gofal. Argymhellodd dau seicolegydd fod eiriolwyr yn cael eu penodi ar gyfer y rhieni fel eu bod yn deall ac yn cymryd rhan yn llawn. Gwrthododd yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol a GLLTEM eu hariannu.

Ystyriodd yr Uchel Lys y mater a gorchmynnodd i GLLTEM dalu am 50 awr o eiriolaeth.

Hawl i gymryd rhan a rhaid bod yn deg

Y pwynt cyfreithiol yw bod gan rieni hawl i gymryd rhan lawn yn y broses, a bod yn rhaid i’r broses fod yn deg. (Mae Erthygl 6 o’r Ddeddf Hawliau Dynol yn diogelu ein hawl i dreial teg).

Os oes angen eiriolwr ar rieni i allu cyfathrebu’n effeithiol, i ddeall a phrosesu gwybodaeth ac i gyfleu eu dymuniadau a’u safbwyntiau eu hunain, dylent gael eiriolwr cyn gynted â phosibl. Os nad yw awdurdodau lleol yn dymuno torri hawliau teulu o dan y Ddeddf Hawliau Dynol 1998 a Deddf Cydraddoldeb 2010, yna bydd angen iddynt sicrhau bod eiriolwr yn cael ei benodi mor fuan â phosibl, lle bydd rhiant ag anabledd dysgu angen un er mwyn cyfathrebu a cymryd rhan yn effeithiol.

Eiriolaeth Statudol

Mae awdurdodau lleol yn tueddu i gyfeirio at “eiriolaeth statudol” sy’n golygu’r eiriolwyr hynny sy’n cael eu penodi/ariannu o dan ddarpariaethau’r Ddeddf Galluedd Meddyliol a’r Ddeddf Iechyd Meddwl a’r Ddeddf Gofal yn unig. Fodd bynnag, mae’n werth atgoffa bod y Ddeddf Cydraddoldeb a’r Ddeddf Hawliau Dynol yn statudau hefyd.

Dywedodd Mr Ustus Keehan: Yn fy marn i, nid oes unrhyw wahaniaeth o bwys rhwng y gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan gyfieithydd, cyfryngwr neu eiriolwr lleyg o ran eu bod yn galluogi ac yn cynorthwyo partïon a thystion i gyfathrebu a deall yr achosion hyn. Mae GLLTEM yn talu am wasanaethau cyfieithwyr a chyfryngwyr yn rheolaidd, ac ni allaf weld unrhyw reswm egwyddorol pam na ddylai hefyd dalu am wasanaethau eiriolwyr lleyg mewn achos priodol. 

Gellir darllen y dyfarniad llawn yma (PDF).