Rydym yn falch o gyflwyno tri aelod newydd o’n tîm staff yn Anabledd Dysgu Cymru: Rhian McDonnell (Swyddog Cyfathrebiadau Hygyrch), Iwan Good (Cydlynnydd Aelodaeth, Dogwyddiadau ac Ymgysylltu), a Nicola Alsept (Gweinyddydd Cyllid).

Fe wnaethom ofyn i Michael, Rhian, Iwan a Nicola ddweud wrthym ni amdanyn nhw eu hunain a’u rolau yn Anabledd Dysgu Cymru. Rydych chi’n gallu darllen proffil Rhian yma, proffil Michael yma, a proffil Iwan yma.


A woman with glasses, red jacket and jeans, is sitting on a coastal wall with 2 dogs, with the sea and cliffs behind herNicola

Fe wnes i ymuno gydag Anabledd Dysgu Cymru yn Awst eleni, wedi gweithio cyn hyny am 3 blynedd gydag elusen digartrefedd yn cefnogi oedolion bregus. Dyma fy ail rôl felly yn gweithio yn y trydydd sector. Mae’n foddhaol iawn gweithio i gorff sydd wedi ymrwymo i wella bywydau pobl gydag anableddau dysgu a gweld y gwahaniaeth positif y mae elusen fel Anabledd Dysgu Cymru yn gallu ei wneud i fywydau pobl.

Dim ond am amser byr rydw i wedi gweithio yma ond rydw i’n gallu gweld yn barod pa mor ymroddedig ydy pawb yma i gyflawni ein cenhadaeth o wneud Cymru y wlad orau yn y byd ar gyfer pobl gydag anabledd dysgu i fyw, dysgu a gweithio ynddi.

Fy rôl ydy cefnogi ein Rheolwraig Cyllid, Zhanar Tabeyeva, gyda gweinyddiaeth ariannol o ddydd i ddydd a sicrhau bod cyllid Anabledd Dysgu Cymru dan reolaeth da ac yn cael ei wario yn unol ag amcanion y corff. Am rhyw reswm rhyfedd, rydw i’n caru rhifau ac yn fwy na hapus i eistedd o flaen monitor yn ceisio dehongli taenlenni  .

Rydw i wedi priodi ac mae gen i 2 gi. Rydym yn treulio llawer o amser yn Northumberland (lle nad ydy hi yn rhy boeth!), yn cerdded y cwn ar y traethau tawel a hardd. Rydw i’n caru bod yn yr awyr agored ac rydw i wedi treulio oriau lawer yn gwirfoddoli gyda’r Ymddiriedolaeth Cenedlaethol yn helpu i gadw cynefinoedd naturiol a bywyd gwyllt yn Northumberland.

Rydw i hefyd yn mwynhau mynd i weld cerddoriaeth byw, yn bennaf bandiau llai adnabyddus mewn lleoliadau bach a gwyliau bach.