Rydym yn falch o gyflwyno tri aelod newydd o’n tîm staff yn Anabledd Dysgu Cymru: Rhian McDonnell (Swyddog Cyfathrebiadau Hygyrch), Iwan Good (Cydlynnydd Aelodaeth, Dogwyddiadau ac Ymgysylltu), a Nicola Alsept (Gweinyddydd Cyllid).

Fe wnaethom ofyn i Michael, Rhian, Iwan a Nicola ddweud wrthym ni amdanyn nhw eu hunain a’u rolau yn Anabledd Dysgu Cymru. Rydych chi’n gallu darllen proffil Iwan yma, proffil Michael yma, a proffil Nicola yma.


Young woman with glasses and bobbed hair wearing a stripy red and white tshirtRhian

Rydw i wedi ymuno gyda thîm Hawdd ei Ddeall Cymru yn ddiweddar, yn gweithio gyda Laura, Inacia a Julie. Rydw i yn ysgrifennu ac yn dylunio dogfennau hawdd eu deall i’n cleientiaid, a gwneud y dogfennau yn hygyrch yn ddigidol.

Pan oeddwn yn chwilio am swydd newydd roedd Anabledd Dysgu Cymru yn sefyll allan ar unwaith. Roedd yn ymddangos yn lle gwych i weithio ynddo ac mae hynny’n wir! Rydw i’n mwynhau’r cyfle i wneud gwahaniaeth positif mewn swydd rydw i’n ei charu. Mae’n wych cael gweithio mewn corff sydd yn darparu gwasanaethau gwerth chweil i unigolion a’r gymuned ehangach.

Mae’r deunydd hawdd ei ddeall sydd yn ddigidol hygyrch yn lleihau’r rhwystrau i gyfathrebu a rhyngweithio y mae nifer o bobl gydag anableddau dysgu yn eu wynebu. Mae’n golygu nad ydyn nhw’n cael eu heithrio rhag defnyddio gwasanaethau a chynnyrch ac mae eu lleisiau yn gallu cael eu clywed.

Rydw i’n credu ei bod yn bwysig adeiladu hygyrchedd i ddogfen o ddechrau’r broses ddylunio. Mae gennyf radd mewn Dylunio Graffeg a phrofiad helaeth mewn dylunio dogfennau ac eitemau eraill ar gyfer allbwn print a digidol. Rydw i wedi gweithio gyda chleientiaid o’r sectorau preifat, cyhoeddus, gwirfoddol a chymunedol gan gynhyrchu dylunio graffeg o ansawdd uchel ar gyfer amrediad eang o gynnyrch.

Mae print a dylunio bob amser wedi bod yn ddiddordeb craidd imi. Fy niddoredb allweddol (yr ysgrifenais fy nhraethwawd hir arno) ydy sut mae’r rhyngchwarae lluniau, geiriau a’r defnydd o fathau arbennig o ffurfdeip a chynllun yn gallu helpu neu lesteirio darllen. Felly mae fy rôl yn Hawdd ei ddeall Cymru yn berffaith!

Mae fy mhrofiad fel person anabl wedi rhoi golwg unigryw imi. Mae bod yn wahanol mewn un ffordd wedi fy helpu i ddeall pobl sydd yn wahanol mewn ffordd arall. Rydw i wedi profi mor anodd y mae’n gallu bod yn y byd yma i fod yn wahanol a lle nad ydy eich anghenion yn cael eu hystyried. Mae hyn wedi fy ngwneud yn fwy penderfynol i helou eraill mewn sefyllfaoedd tebyg.

Y tu allan i’r gwaith  fe fyddaf yn darllen gyda fy nghath ar fy nglin, yn bwyta gormod o siocled tywyll ac yn tynnu lluniau a pheintio gyda llawer o liwiau llachar.

Rydw i’n mwynhau gweithio gyda chleientiaid, mawr a bach, y tu mewn a’r tu allan i Gymru, gan eiu helpu i ddatrys eu heriau hawdd ei ddeall, dylunio a hygyrchedd.