A large group of people

Ymunwch gyda ni ar gyfer y cyfarfod cyntaf o’n rhwydwaith newydd Cysylltiadau Cymru sydd yn delio gydag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol pobl gydag anabledd dysgu yng Nghymru.

Mae Cysylltiadau Cymru wedi cael ei sefydlu i:

  • Chwilio a rhannu mwy o ddealltwriaeth am broblemau unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol
  • Rhannu arfer da ar leihau unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol
  • Creu cysylltiadau rhwng polisi ac arfer.

Yn y cyfarfod cyntaf yma fe fyddwn yn clywed gan siaradwyr a fydd yn rhoi eu persbectif eu hunain ar faterion unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol.

  • Heather Graham, Cydgysylltydd Prosiect, Ffrindiau Gigiau
  • Darparydd gwasanaeth cefnogi (i’w gadarnhau)

Fe fyddwn hefyd yn trafod sut y gallwn ddelio gydag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol wrth inni symud allan o’r cyfnod clo a chyfyngiadau eraill Covid-19.

Archebwch eich lle nawr.

Dyma gyfarfod cyntaf y rhwydwaith ac mae croeso i bawb. Os hoffech dderbyn gwahoddiadau i gyfarfodydd yn y dyfodol, newyddion a diweddariadau,  os gwelwch yn dda ymunwch gyda’r rhwydwaith yma.

 

Cliciwch yma i ymunwch gyda’r rhwydwaith

 

31 Mawrth 2021

2:00 – 3:30 yp