Person using a communication app on an ipad

Mae llawer o bobl gydag anabledd dysgu yng Nghymru wedi cael eu heithrio yn ddigidol ac felly yn methu manteisio yn llawn ar yr holl gyfleoedd y gall y rhyngrwyd a thechnoleg eu darparu. Yn ystod y pandemig coronafeirws mae hyn wedi golygu bod nifer o bobl gydag anabledd dysgu wedi cael eu heithrio yn gymdeithasol yn fwy nag erioed.

Mae sawl rheswm pam y gall fod rhywun gydag anabledd dysgu wedi cael eu heithrio yn ddigidol:

  • Pobl ddim yn gwybod sut i fynd ar-lein
  • Pobl ddim yn gwybod beth maen nhw’n gallu ei wneud ar-lein
  • Diffyg mynediad i offer neu gefnogaeth i ddefnyddio offer
  • Gwybodaeth a chyfarwyddiadau a roddwyd heb fod yn hygyrch
  • Darparwyr gwasanaethau neu rieni/gofalwyr ddim yn cefnogi rhywun i fynd ar-lein neu hyd yn oed yn eu hatal rhag gwneud hynny
  • Ofn risg a diogelwch pan yn mynd ar-lein
  • Dim band eang yn eu cartref
  • Band eang gwael neu wasanaethau 4G gwael yn eu hardal
  • Tlodi

Hoffen i chi ymuno gyda ni i glywed eich barn am eithrio digidol a sut rydych chi’n gweithio i oresgyn hynny.

Rydym eisiau meddwl am rai camau y gallwn gytuno arnyn nhw i ddelio gydag eithrio digidol pobl gydag anabledd dysgu yng Nghymru.

Ar ôl y cyfarfod fe fyddwn yn ysgrifennu erthygl ar gyfer gwefan Anabledd Dysgu Cymru am yr hyn mae pobl ar draws Cymru yn ei wneud a beth rydyn ni eisiau ei weld yn digwydd er mwyn gwneud i newid ddigwydd. Edrychwch ar yr  adnoddau, gwybodaeth a newyddion sydd eisoes ar ein gwefan.

Pan fyddwch yn cofrestru fe fyddwch yn derbyn cyfarwyddiadau ar sut i ymuno gyda’r sesiwn ar-lein. Edrychwch i weld bod gennych yr offer cywir, gweler isod.