Roedd ein cynhadledd flynyddol 2019, Dwi yma, yn edrych ar bwysigrwydd pobl gydag anabledd dysgu o bob oedran yn cael eu gweld, eu clywed, eu cynnwys a’u gwerthfawrogi ym mhob agwedd o fywyd. Yn yr ysgol, coleg, y gwaith, gartref, yn y gymuned, y celfyddydau, hamdden a safleoedd o awdurdod ac arbenigedd.

Mae cael eich gweld, eich clywed, eich cynnwys a’ch gwerthfawrogi yn helpu:

  • lleihau stigma a gwahaniaethu yn erbyn pobl gydag anabledd dysgu
  • rhoi grym a rheolaeth i bobl yn eu bywydau eu hunain
  • llesiant pobl

Mae gwneud Cymru lle mae pobl gydag anabledd dysgu yn cael eu gweld, eu clywed, eu cynnwys a’u gwerthfawrogi yn bwysig i bawb oherwydd:

  • mae’n gwneud y mwyaf o sgiliau, gwybodaeth a doniau pobl
  • mae’n helpu gwasanaethau i ddarparu’r gwasanaethau a’r gefnogaeth gywir
  • mae’n cyfrannu at gydlyniad cymunedol a datblygiad economaidd