A woman working on a laptop

Bu ein Cynhadledd Flynyddol 2021 ‘Gallwn ei Weithio Allan’ yn llwyddiannus, diolch i’n holl gyfranwyr, noddwyr a chynrychiolwyr.

Ein thema eleni oedd edrych ar beth mae gwaith, swyddi a chyflogaeth yn ei feddwl i bobl gydag anablerdd dysgu.

Dros yr wythnos roedd ein rhaglen yn cynnwys ffilmiau, straeon, trafodaethau a barn arbenigol ar faterion gwaith a beth sydd annen ei newid i wneud byd gwaith yn well i bobl gydag anabledd dysgu.

Ymunodd dros 200 o bobl gyda ni yn ystod yr wythnos, gyda thua 100 yn mynychu bob dydd.

Dyma’r themâu allweddol drwy gydol rhaglen y gynhadleodd:

  • Straeon Bywyd Go Iawn ar ddiwrnod 1 oedd yn cynnwys pobl ar draws Cymru yn rhannu eu straeon am waith, cyflogedig ac yn ddi-dâl.
  • Roedd Rhwystrau i Waith ar ddiwrnod 2 yn edrych ar rai o’r rhwystrau i waith y mae pobl gydag anabledd dysgu yn eu wynebu.
  • Roedd Cefnogaeth i Waith ar ddiwrnod 3 yn canolbwyntio ar sut mae modd dymchwel llawer o’r rhwystrau i waith pan mae pobl yn cael y gefnogaeth gywir, ac felly galluogi pobl i gael y swyddi maen nhw eisiau.
  • Roedd Cael eich Gwerthfawrogi yn y Gwaith ar ddiwrnod 4 yn edrych ar sut mae pobl gydag anabledd dysgu yn gallu bod yn gyflogai a chydweithwyr sydd yn cael gwerthfawrogi a sut mae pobl yn gwerthfawrogi’r swyddi sydd ganddyn nhw.
  • Daeth ein Cynhadledd i ben gyda’r Newid Rydyn ni ei Angen lle cafwyd trafodaeth panel ar y 5ed diwrnod, sef y diwrnod olaf. Bu’r sesiwn yn fforwm ar gyfer trafodaeth am beth sydd angen ei newid i wneud byd gwaith yn well i bobl gydag anabledd dysgu. Bu panel o arbenigwyr yn siarad am beth roedden nhw’n feddwl oedd angen ei newid. A chafodd y cyfranogwyr gyfle i ofyn cwestiynau i aelodau’r panel am y problemau a’r cyfleoedd yn y dyfodol.

Hoffem ddiolch a dangos ein gwerthfawrogiad i’n siaradwyr, cyfranogwyr, noddwyr a staff a amlygodd y materion sydd yn effeithio fwyaf ar bobl gydag anabledd dysgu.

Ar ddiwedd ein cynhadledd roedd y rhai a fynychodd wedi dysgu llawer mwy. Roedden nhw’n teimlo’n bositif am y cynnydd a wnaethpwyd ac wedi eu hysbrydoli i wneud newidiadau i fywydau pobl gydag anabledd dysgu fel cyflogwyr a chydweithwyr.

Gallwch weld recordiadau o’r holl sesiynau gydag adnoddau a dolenni ychwanegol isod.