Two women petting a dog.

Dros y deunaw mis diwethaf, mae’r sector anableddau dysgu wedi dod ynghyd i ddatblygu dogfen sy’n cynnig fframwaith a chanllaw i helpu yn y gwaith o lywio a gwella comisiynu.
Bydd y ddogfen yn cael ei lansio ar 5 Mawrth, gyda sesiynau rhyngweithiol i ddod â’r ddogfen yn fyw a’i rhannu’n gamau pendant y gallwn ni fel sector eu cymryd.
Digwyddiad rhad ac am ddim yw hwn, ac mae’n gyfle gwych i fod yn bresennol ar ddechrau rhywbeth all chwyldroi ein gwasanaethau a rhoi cyfle i’r rhai rydym yn eu helpu i fod wrth galon y gofal a’r gefnogaeth a roddir iddynt.

Nodau:

  • Ceisio cael ymrwymiad i newid arferion comisiynu
  • Sicrhau bod teuluoedd a defnyddwyr gwasanaethau wrth galon y broses
  • Dylanwadu ar arferion comisiynu i ganolbwyntio ar ‘fywyd da’
  • Defnyddio enghreifftiau o arfer da i ddylanwadu ar newid
  • Nodi cyfleoedd i sicrhau bod gweithredu’n gost-effeithiol a rhoi gwerth am arian yn bosibl ochr yn ochr â dulliau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn