Disabled parking space sign painted on tarmac

Rhoddir Bathodynnau Glas i rai pobl anabl er mwyn gadael iddynt ddefnyddio mannau parcio arbennig neu barcio am ddim.

Gallwch gael Bathodyn Glas hyd yn oed os nad ydych yn gyrru neu os nad oes gennych gar eich hunan.

Llywodraeth Cymru a bennodd y rheolau ar gyfer Bathodynnau Glas ond,

er mwyn cael Bathodyn Glas, mae’n rhaid i chi wneud cais i’ch cyngor lleol.

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru am gael barn pobl am y Bathodynnau Glas, felly mae am glywed gennych chi!

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru am gael eich barn am y canlynol:

  • Pwy sy’n gymwys i gael Bathodyn Glas
  • Y wybodaeth sydd ar gael am Fathodynnau Glas
  • Sut i wneud cais
  • Y rheolau ar gyfer sut y cedwir Bathodynnau Glas

Hoffem i chi ddod i gyfarfod byr i gael gwybod eich barn.

Diodydd a lluniaeth am ddim.

Gallwch wneud cais i ni dalu am eich costau teithio i’r cyfarfod.

Mae’r digwyddiad yma ar gyfer pobl gydag anabledd dysgu  a’r gofalwyr cyflogedig a di-dâl sydd naill ai â bathodyn glas neu a hoffai gael un.