Older man talking to a woman

Nod y cwrs ydy helpu’r rhai sydd yn gweithio gyda phobl ag anabledd dysgu i chwarae rhan mewn helpu’r rhai y maen nhw yn eu cefnogi i fyw eu bywydau i’r eithaf ac i gael eu cynnwys. Fe fydd y cwrs yn gwneud hynny trwy weithio gyda’r cyfranogwyr ar y cysyniadau sydd yn waelodol i gyfathrebu gya phobl ag anabledd dysgu, ac i wneud hynny’n effeithiol.

Mae’r cwrs yn dilyn dull o Gyfathrebu Llwyr a chyflwynir y cyfranogwyr i amrediad o dechnegau cyfathrebu y gellir eu defnyddio yn ychwanegol at y gair llafar a gellir eu haddasu yn unol â sgiliau cyfathrebu’r unigolyn dan sylw. Mae’r adran yma o’r cwrs yn canolbwyntio ar gyfathrebu gyda phobl sydd ag anableddau dysgu ysgafn i gymhedrol yn ogystal â’r rhai sydd ag anableddau dysgu dwys.

Caiff y cyfranogwyr y cyfle i ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu a dysgu am yr amrediad o dechnegau cyfathrebu y gellir eu defnyddio i hwyluso cyfathrebu effeithiol gyda phobl ag anableddau dysgu.

Yn ystod y dydd gwahoddir y cyfranogwyr i dynnu oddi ar eu profiadau eu hunain o gyfathrebu gyda phobl ag anableddau dysgu. Mae ffilmiau fideo, gweithgareddau ac ymarferion yn galluogi cyfranogwyr i archwilio’r amrywiol gysyniadau a thechnegau cyfathrebu ac i drafod a myfyrio ar ffyrdd o’u hymgorffori yn eu gwaith.

Ar gyfer

Mae’r cwrs yma’n ddelfrydol i bobl sydd yn gweithio mewn amrediad o leoliadau yn cynnwys cynorthwywyr personol, gweithwyr cefnogi a darparwyr gwasanaethau anabledd dysgu. Fe fydd rhieni a gofalwyr yn elwa hefyd o fynychu.