Heddiw ydy Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl, cyfle i hyrwyddo hawliau a dathlu llwyddiannau pobl anabl o amgylch y byd. Mae’r diwrnod wedi ysgogi Zoe Richards, Prif Weithredwraig Dros Dro Anabledd Dysgu Cymru, i fyfyrio ar bŵer cynhwysiant, a sut mae wedi galluogi’r bobl  ifanc y mae wedi gweithio gyda nhw i greu dyfodol llwyddiannus iddyn nhw eu hunain.


Bu mis Tachwedd yn fis o daro ar draws pobl a dal i fyny gyda phobl. Rwyf yn dweud pobl, ond heddiw rydw i’n siarad am bobl ifanc. O leiaf, roedden nhw’n ifanc pan wnes i eu cyfarfod yn y lle cyntaf. Am 13 mlynedd roeddwn yn arwain theatr ieuenctid lleol yng Nghastellnedd a rhai grwpiau llai mewn ardaloedd eraill. Ymunodd rhai pobl ifanc yn fy mlwyddyn gyntaf (pan oedden nhw’n 5 oed) a gadael yn fy mlwyddyn olaf (yn 18 oed). Roedden ni’n rhan o fywydau ein gilydd. Mae hynny’n dal yn wir, er nad ydyn ni’n gweld ein gilydd yn aml iawn.

Uchafbwynt mawr y mis oedd mynd i weld cydweithrediad Hijinx a National Theatre Wales, ‘Mission Control’. Rydw i’n hoff iawn o’u gwaith ond yr hyn a’m hanogodd i fynd oedd fy nghysylltiad gydag Ashford a Gareth (dau actor yn y cynhyrchiad). Roeddwn wedi derbyn neges destun yn gynharach yn yr wythnos gan Charlotte (actor arall yn y sioe) wrth imi ddod o gyfarfod i mewn i orsaf danddaearol Brixton yn Llundain. Roedd ffotograff o Charlotte ac Ashford gyda’r neges ‘edrych gyda pwy rydw i’n gweithio!’. I rhywun sydd prin yn dangos emosiwn roedd gennyf lwmp mawr yn fy ngwddf wrth fynd i mewn i’r orsaf a theimlad cynnes ein bod, ar hyd y daith, wedi newid bywydau yn ein theatr ieuenctid.

Dros y penwythnos fe wnes gyfarfod â Jordan (athrawes ysgol gynradd) yn Tesco. Doeddwn i ddim wedi ei gweld ers tro ac roeddwn i braidd yn swil (dydw i ddim yn dda iawn am gynnal sgyrsiau un i un ar adegau) ond rhoddodd gwtch mawr imi a buom yn sgwrsio am fywyd. Roeddwn yn gadael gyda gwen ar fy wyneb.

Neithiwr cefais swper gyda Benjamin (actor) ac yn ddiweddarach Callum (mae’n anodd disgrifio Callum!) a buom yn chwerthin o amgylch y bwrdd a gwneud cynlluniau ar gyfer y Nadolig.

Drwy bŵer y cyfryngau cymdeithasol rwyf hefyd wedi gweld y pethau gwych y mae nifer o’r bobl ifanc rwyf yn eu hadnabod wedi bod yn eu gwneud. Mae Nathan (actor proffesiynol) yn mynd i wneud panto; Annie (athrawes ysgol uwchradd) yn dysgu yn ei swydd gyntaf yn fy hen ysgol ym Merthyr Tudful; rwyf wedi gweld Oisin (peiriannydd mecanyddol) yn cynnal ‘snapchat’ o noson tecno ar y penwythnos (gwell peidio dweud gormod!). Dyma ychydig yn unig o’r nifer.

Doeddwn i erioed wedi bwriadu cynnal theatr ieuenctid cynhwysol ond doeddwn i ddim wedi bwriadu peidio chwaith. Fe ddigwyddodd pan ymunodd person ifanc oedd angen i theatr ieuenctid fod yn gynhwysol iddo ac fe ddechreuodd fy newid i, newid y theatr ieuenctid a newid yr holl bobl ifanc eraill. Cawsom 13 o flynyddodd hyfryd  yn y theatr ieuenctid a heddiw ar Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl rwyf yn myfyrio ac yn dathlu ein hamser a’n cysylltiad gyda’n gilydd, gan wybod y bydd pawb a ymunodd yn mynd ymlaen i ddeall cynhwysiant a chymaint y gwnaeth hynny gyfoethogi eu bywydau.

Zoe Richards
Prif Weithredwraig Dros Dro
Anabledd Dysgu Cymru

Young man in smart clothes celebrating his birthday with friends