2 Gig Buddy friends at the theatre turning around and smiling at the camera, behind and below them is the stage which is bathed in white light

Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein bod wedi derbyn £50,000 dros 2 flynedd gan grant Gwirfoddoli  Cymru CGGC i recriwtio, hyfforddi, cefnogi a gwella profiad gwirfoddolwyr ar gyfer Ffrindiau Gigiau Cymru yng Ngogledd Cymru.

Mae Ffrindiau Gigiau Cymru yn gynllun cyfeillio arloesol sy’n mynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol trwy baru oedolion ag anabledd dysgu a heb anabledd dysgu sy’n rhannu’r un diddordebau. Yna mae parau Ffrindiau Gigiau yn mynychu gweithgareddau cymdeithasol gyda’i gilydd. Wedi’i lansio yng Nghaerdydd gan Anabledd Dysgu Cymru yn 2018, ehangodd y prosiect i Ogledd Cymru yn 2020 ac mae galw mawr amdano o hyd.

Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar siroedd Gwynedd, Sir Ddinbych a Wrecsam. Yn yr ardaloedd hyn rydym bellach yn gallu treulio mwy o amser yn recriwtio gwirfoddolwyr newydd i fod yn Ffrind Gigiau. Mae hyn yn cynnwys hyfforddiant, cynefino, cefnogaeth a datblygiad. Mae’n gwella’r profiad gwirfoddolwyr presennol trwy gefnogaeth a datblygiad. Mae hyn yn cynnwys gwirfoddolwyr Ffrindiau Gigiau a’n gwirfoddolwyr sydd ag anabledd dysgu.

Mae’r prosiect rhwng mis Hydref 2022 a mis Medi 2024.

Ar ôl rownd recriwtio aflwyddiannus yn hydref 2022, roeddem yn falch iawn o gael John Butterly i ddechrau gyda ni ym mis Ebrill 2023 fel Cydlynydd Gwirfoddolwyr. Mae John yn gweithio’n agos gyda Sian Lloyd-Davies, ein cydlynydd prosiect yng Ngogledd Cymru, a’r tîm Ffrindiau Gigiau ehangach ledled Cymru. Mae Anabledd Dysgu Cymru yn cefnogi ac yn rheoli’r prosiect.

Ar draws pob un o’r chwe sir yng Ngogledd Cymru, mae gennym dros 40 o gyfranogwyr, 22 o wirfoddolwyr a 14 pâr Ffrindiau Gigiau. Mae gennym hefyd restr aros o bobl sydd eisiau ymuno â’r prosiect.

Gwella’r profiad gwirfoddoli gyda Ffrindiau Gigiau Cymru

Mae Grant Gwirfoddoli WCVA wedi cael effaith sylweddol a chadarnhaol ar ein prosiect hyd yn hyn:

  • Mae’r grant yn helpu’r prosiect i ddod o hyd i fwy o wirfoddolwyr i bobl sy’n aros am Ffrind Gigau.
  • Mae John a Sian wedi bod yn dod i adnabod ein cyfranogwyr a’n gwirfoddolwyr ac wedi cynnal digwyddiadau cymdeithasol bach mewn sawl sir fel digwyddiad ‘dod i’ch adnabod’.
  • Mae ein cydlynydd gweinyddol a chyfathrebu, Danielle, wedi gallu ailwampio ein hyfforddiant a’n deunyddiau gwirfoddol yn llwyr.
  • Rydym wedi bod yn rhwydweithio yn y gymuned ac yn mynychu digwyddiadau i ddod o hyd i wirfoddolwyr Ffrindiau Gigiau newydd, gan gynnwys yr Ŵyl Ffocws hynod boblogaidd, yn Wrecsam; Philfest ar Ynys Môn; a Sioe Amaethyddol Sir y Fflint/Sir Ddinbych.
  • Rydym wedi ailgynllunio a chynhyrchu taflenni a phosteri newydd sbon i ddenu darpar wirfoddolwyr. Edrychwch ar y daflen newydd isod, neu lawrlwythwch gopi yma (PDF)neu lawrlwythwch gopi yma (PDF).
  • Mae Victoria Waller, ein gwirfoddolwr cyfryngau cymdeithasol gwych, wedi bod yn brysur yn teithio o amgylch ei chymunedau lleol yng Ngogledd Cymru ac yn gofyn i fusnesau sy’n wynebu’r cyhoedd arddangos ein taflen a’n poster newydd. Mae pobl sydd wedi eu gweld eisoes wedi dangos diddordeb.
  • Mae John a Sian wedi bod yn brysur yn cysylltu â busnesau, gan weithio’n agos gydag awdurdodau lleol, yn enwedig swyddogion lles y gwasanaethau cymdeithasol.
  • Yn ystod wythnos y Gwirfoddolwyr, diolchwyd i’n holl wirfoddolwyr drwy’r cyfryngau cymdeithasol ac anfonwyd cerdyn diolch personol â llaw iddynt.

Rydym yn gallu cynnal sesiynau cymorth mwy rheolaidd ar gyfer cyfranogwyr a gwirfoddolwyr, yn ogystal ag adborth rheolaidd gan wirfoddolwyr drwy gyfweliadau un i un, cyfweliadau (fideo), sesiynau cymorth ac arolygon.

John is smiling and has glasses, with close cropped hair, a colourful striped cardigan with a white shirt underneath

Cyflwyno John, Cydlynydd Gwirfoddolwyr

“Fel Cydlynydd Gwirfoddolwyr, byddaf yn dod o hyd i wirfoddolwyr newydd yng Ngogledd Cymru ac yna’n eu cefnogi ar eu taith gyffrous newydd gyda’u Ffrindiau Gigiau. Dwi wedi cael cymaint o help a chefnogaeth gan Danielle, Kai, Karen, Kylie a Sian yn barod – maen nhw wedi gwneud i mi deimlo’n groesawgar iawn ar y Tîm Ffrindiau Gigiau Cymru a finnau’n mynd i ddysgu gymaint ganddyn nhw.

“Fy swydd flaenorol oedd gyda CGGC (Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru) lle’r oeddwn yn Swyddog Perfformio, yn rheoli llwyth achosion o sefydliadau gwirfoddol ledled Cymru a oedd yn cyflawni prosiectau mawr a ariannwyd gan yr UE. Cyn hynny, roeddwn yn arwain yr elusen Gingerbread yng Ngogledd Cymru i gefnogi rhieni sengl a’u plant. Sefydlwyd Gingerbread ym 1918 – gydag enw gwahanol – i gefnogi dros 5 miliwn o fenywod yr oedd eu partneriaid wedi colli eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Er gwaethaf sïon, nid oeddwn yn un o sylfaenwyr Gingerbread.)

“Bellach yn 66 oed mae gen i 6 o blant a 7 o wyrion, felly fy hobïau yw gwneud dim a syllu i’r gofod gymaint â phosib. Rwy’n cerdded ein ci teulu Stan bob dydd gyda fy ngwraig wych Babs. Mae hi’n aml yn meddwl nad ydw i’n gwrando arni wrth i ni gerdded, ond wrth gwrs dim ond ymarfer fy hobïau ydw i…”

Allwch chi ddychmygu gorfod gadael pob noson allan am 9yh? Dyma’r realiti i lawer o bobl ag anableddau dysgu Gwirfoddolwch fel Ffrind Gigiau I wneud ffrind newydd A mynd i gigiau a chymdeithasu gyda’ch gilydd Hwyl gyda ffrindiau yw sut mae Ffrindiau Gigiau Cymru yn taclo unigrwydd E-bost: gigbuddies@ldw.org.uk Ffôn: 029 2068 1160 Gwefan: ffrindiaugigiau.org.uk