Ynghyd gyda dros 30 o sefydliadau eraill, mae Anabledd Dysgu Cymru yn galw am weithredu ar anghydraddoldebau iechyd.

Mae’r pandemig COVID-19 wedid tynnu sylw at y blwch cynyddol mewn anhgydraddoldebau iechyd – hynny yw, a gwahaniaeth annheg a gellir ei hosgoi mewn canlyniadau iechyd a lles ar draws y boblogaeth, a rhwng grwpiau gwahanol o fewn cymdeithas.

Gall pobl ag anabledd dysgu gael iechyd gwaeth na phobl heb anabledd dysgu ac maent yn fwy tebygol o brofi nifer o gyflyrau iechyd. Mae hyn am nifer o rhesymau, a’i elwir rhain yn benderfynyddion iechyd ehangach. 

Mae’r penderfynyddion ehangach yma yn cynnwys ffactorau megis incwm, tai, amgylchedd, addysg a trafnidiaeth. Dyma pam ddylai dod i’r a anghydraddoldebau iechyd fod yn blaenoriaeth sy’n rhedeg trwy’r llywodraeth ac yn flaenoriaeth i bob sefydliad.

Yn ol arolwg barn diweddar gan Coleg Brenhinol y Meddygon Cymru:

  • Roedd 82% o’r ymatebwyr eisiau gweld strategaeth gan y llywodraeth i leihau anghydraddoldebau iechyd
  • Roedd 61% yn credu y dylai llywodraethau ledled y DU fod yn gwneud mwy i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd
  • Mae 63% yn pryderu bod y bwlch iechyd rhwng ardaloedd cyfoethog a difreintiedig yn tyfu.
  • Mae 82% yn meddwl y dylai pob rhan o’r llywodraeth orfod ystyried effaith eu polisïau ar bobl sy’n llai cefnog, gyda mwy na hanner yn cytuno’n gryf.
  • Nododd 25% o’r ymatebwyr mai cyflyrau iechyd hirdymor oedd yr anghydraddoldeb iechyd roeddent yn poeni fwyaf amdanynt, gyda 17% yn nodi iechyd meddwl gwael.

Bydd etholiad nesaf y Senedd yn cael ei gynnal ym mis Mai 2021. Felly, rydyn ni’n galw ar bob plaid wleidyddol i ymrwymo i weithredu ar y cyd i ddatblygu strategaeth draws-lywodraethol gyda chynllun gweithredu a cherrig milltir clir, gan weithio ar y cyd â phartneriaid ar draws pob sector.

Dywedodd Dr Olwen Williams, is-lywydd Coleg Brenhinol y Meddygon yng Nghymru: ‘Mae degawd wedi mynd heibio ers i Lywodraeth Cymru ymrwymo i ‘Canlyniadau Iechyd Tecach i Bawb.’ Yn anffodus, yn ystod y cyfnod hwnnw, mae anghydraddoldebau iechyd cynyddol wedi cael eu hamlygu a’u dwysáu gan bandemig COVID-19. Allwn ni ddim fforddio dirywiad pellach – os yw ein cenedl yn mynd i ffynnu, mae angen i ni gymryd camau i gefnogi’r rhai sydd fwyaf mewn perygl o ddioddef salwch.’

 

Ychwanegodd Dr David Bailey, cadeirydd Cyngor Cymreig Cymdeithas Feddygol Prydain: ‘Mae’r pandemig COVID-19 wedi helpu i amlygu ymhellach yr anghydraddoldebau iechyd sylweddol a oedd eisoes yn bodoli ledled Cymru. Mae llawer mwy o farwolaethau o COVID-19 wedi bod mewn cymunedau tlotach, ac mae cyflogaeth, tai, addysg ac amddifadedd wedi cyfrannu’n sylweddol o ran gallu rhai rhannau o’n gwlad i wrthsefyll y feirws. Rydyn ni am weld Llywodraeth Cymru yn creu cynllun cadarn, tymor hir i helpu i fynd i’r afael â’r mater hwn a helpu i lunio dyfodol iachach i bawb yng Nghymru.’

 

Dywedodd Stuart Ropke, prif weithredwr, Tai Cymunedol Cymru: ‘Mae pandemig COVID-19 wedi pwysleisio pwysigrwydd y cartref. Mae tystiolaeth gref bod cysylltiad rhwng tai gwael ag iechyd corfforol a meddyliol gwael, ac mae’n costio mwy na £95 miliwn y flwyddyn i’r GIG yng Nghymru mewn costau triniaethau. Drwy fuddsoddi mewn cartrefi newydd a rhai presennol y gellir eu haddasu, sy’n gynnes ac yn ddiogel, gallwn wneud cyfraniad enfawr i atal afiechyd yn y lle cyntaf, a chefnogi pobl i aros yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain cyhyd â phosibl. Mae angen strategaeth draws-lywodraethol i oresgyn anghydraddoldebau iechyd o’r raddfa sydd gennym yng Nghymru, gan ddod ag adnoddau ar y cyd Cymru at ei gilydd, a mynd i’r afael â’r hyn sydd wrth wraidd iechyd gwael.’

Dogfennau

Llythyr wrth Coleg Brenhinol y Meddygon Cymru