Cynhadledd Flynyddol Anabledd Dysgu Cymru 2020

Stylised image of a group of people

Eleni bydd ein Cynhadledd Flynyddol ar thema unigrwydd ac arwahanrwydd. Bydd hyn yn rhan o’n sgwrs genedlaethol ar gyfer y flwyddyn 2020/21.

Bydd y digwyddiad:

  • yn archwilio beth yw unigrwydd ac arwahanrwydd
  • yn tynnu sylw at broblemau ac effeithiau unigrwydd ac arwahanrwydd
  • yn arddangos yr hyn sy’n cael ei wneud i leihau unigrwydd ac arwahanrwydd yng Nghymru.

Rydyn ni am ddathlu gwaith da yn ogystal â chyfleu’r neges bod hon yn broblem ddifrifol i lawer o bobl.

Mae ein cynadleddau blynyddol bob amser yn fywiog a chynhwysol lle mae pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl yn cyfrannu ac yn cymryd rhan yn gyfartal. Ewch i’n tudalen cynhadledd 2019 i weld beth sy’n mynd ymlaen.

Fe fydd pethau ychydig yn wahanol y flwyddyn yma. Dydyn ni ddim yn gwybod pa mor ddiogel fydd hi inni gyfarfod mewn digwyddiadau mawr ym mis Tachwedd ac felly fe fydd y gynhadledd y flwyddyn yma yn cael ei chynnal ar-lein.

Gallwch ddarganfod mwy  am y sesiynau yma

Y cynhadledd:

9 – 20 Tachwedd 2020

Ar lein

Archebion ar gau bellach.