Mae ein gwasanaeth Hawdd ei Ddeall yn edrych ymlaen at y cyfle i helpu eraill i greu deunyddiau hawdd ei ddeall yn dilyn blwyddyn hynod o lwyddiannus.

Dechreuodd Anabledd Dysgu Cymru ysgrifennu gwybodaeth hawdd ei ddeall i gleientiaid yn 2002. Ers hynny rydyn ni wedi bod yn cynyddu’r gwasanaeth ac yn cynhyrchu mwy a mwy o wybodaeth hawdd ei ddeall i fwy a mwy o gleientiaid. Dros y 17 mlynedd diwethaf rydyn ni wedi gweithio gyda dros 80 o gleientiaid ar dros 350 o ddogfennau, yn cynnwys gwefannau, ymgynghoriadau, polisïau a chanllawiau. Rydyn ni hefyd wedi cynhyrchu fideos, posteri a thaflenni i helpu pobl i gael yr wybodaeth maen nhw ei hangen mewn ffordd y maen nhw’n gallu ei ddeall.

Yn 2016 fe wnaethon ni ailfrandio’r gwasanaeth a lansio Hawdd ei Ddeall Cymru. Rydyn ni wedi mynd o nerth i nerth. Y llynedd yn unig fe wnaethon ni weithio gyda 30 o gleientiaid ar dros 60 o ddogfennau oedd yn helpu pobl i gael gwybodaeth am bethau fel cynlluniau llesiant, cau ysbytai, gwasanaethau newydd a newidiadau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a’r Grant Byw’n Annibynnol Cymru. Fe wnaethon ni helpu pobl i roi eu barn ar ddiwygio Anghenion Dysgu Ychwanegol, ailstrwythuro llywodraeth leol a’r GIG a helpu pobl i gymryd rhan mewn cyfarfodydd, grwpiau a gweithgareddau hamdden.

Helpu eraill gyda sgiliau hawdd ei ddeall

Er ein bod yn darparu gwasanaeth i helpu eraill i gynhyrchu gwybodaeth hawdd ei ddeall, ei nod yn y pendraw ydy helpu eraill i ddatblygu sgiliau hawdd ei ddeall. Rydyn ni hefyd eisiau i bob corff feddwl am bobl gydag anabledd dysgu pan maen nhw’n ysgrifennu ac yn cynhyrchu gwybodaeth. Yn y pendraw ein nod ydy newid calonnau a meddyliau cyrff fel bod gan eu diwylliant a’u staff wybodaeth hygyrch wrth graidd yr hyn maen nhw’n ei wneud.

Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda’n tîm hyfforddi i helpu i hyfforddi gweithwyr proffesiynol, myfyrwyr a gofalwyr a rhieni ar sut i ysgrifennu a chynhyrchu eu gwybodaeth hawdd ei ddeall eu hunain. Edrychwch i weld pa hyfforddiant rydyn ni’n ei gynnal yma.

Canllawiau hawdd ei ddeall am ddim

Rydyn ni hefyd yn falch iawn o’n canllawiau hawdd ei ddeall Clir a Hawdd, sydd yn cynnwys canllaw ar sut i ysgrifennu Cymraeg hawdd ei ddeall a’n pecyn cymorth gwirio i bobl gydag anabledd dysgu i edrych yn annibynnol ar ba mor dda ydy gwybodaeth hawdd ei ddeall.

Gweithio gyda phobl ag anabledd dysgu

Rydyn ni’n edrych ymlaen at gael gweithio gyda rhagor o bobl gydag anabledd dysgu i’n helpu i siapio ein gwasanaeth, i edrych ar ffyrdd newydd o ddarparu gwybodaeth hygyrch a sicrhau ein bod yn darparu’r dogfennau hawdd ei ddeall o’r ansawdd gorau.

Mae ein tîm Hawdd ei Ddeall wedi gweithio yn eithriadol o galed i wneud y llynedd y flwyddyn orau eto a hoffem ddiolch iddyn nhw am eu gwaith caled a’u hymroddiad i ddarparu gwybodaeth hygyrch o ansawdd uchel i bobl a gwneud y gwasanaeth yn llwyddiant! Diolch i’n holl gleientiaid am eu cefnogaeth barhaus ac edrychwn ymlaen at yr hyn a ddaw yn 2019-20! Rydyn ni wrthi yn recriwtio Swyddog Gwybodaeth Hygyrch rhan amser arall fel bod modd inni gynorthwyo rhagor o gyrff gyda’u deunyddiau hawdd ei ddeall.

Os hoffech dderbyn dyfynbris ar gyfer eich dogfen, cysylltwch os gwelwch yn dda gyda’n tîm Hawdd ei Ddeall Laura Griffiths neu Karen Warner ar 029 2068 1160