Rydym yn falch iawn o fod wedi creu nifer o swyddi newydd yn Anabledd Dysgu Cymru ac ar hyn o bryd rydym wrthi yn mynd drwy’r ceisiadau a dderbyniwyd ar gyfer ein swyddi Rheolwr/wraig Prosiect,  Rheolwr/wraig Prosiect Engage to Change, Swyddog Polisi a Swyddog Gwybodaeth Hygyrch.

Mae’r dyddiad cau wedi cael ei ymestyn ar gyfer y swydd Gweinyddydd Dwyieithog (24 Mai 2019); mae’r swydd hon yn un llawn amser ond gellid ystyried rhannu swydd.

Gweler y manylion isod ar gyfer y ddwy swydd. Rydym yn gobeithio bod gennych ddiddordeb ac edrychwn ymlaen i glywed oddi wrthych.

Os hoffech wybod rhagor am y swyddi, e-bostiwch Joanne Moore, Rheolwraig Adnoddau Dynol a Llywodraethiant – joanne.moore@ldw.org.uk