Picture of Tegan ( a young white woman with black and blue hair) standing up in the Senedd Council Chamber giving a speechRhoddodd Tegan Skyrme, Aelod Senedd Ieuenctid Cymru, araith yn y cyfarfod ym mis Rhagfyr ym Mae Caerdydd am pa mor anodd y mae’n gallu bod i bobl anabl dderbyn cefnogaeth gyda’u iechyd meddwl.

Mae Tegan yn un o ddau o Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru sydd yn cael eu cefnogi ar hyn o bryd gan Anabledd Dysgu Cymru.  Mae rhagor o wybodaeth am Senedd Ieuenctid Cymru a gwaith Tegan a Georgia ar gael yma.

Rhannodd Tegan ei barn nad oes digon o sylw yn cael ei roi i’r ffordd y mae’r heriau y mae pobl anabl yn eu wynebu yn gallu effeithio ar eu iechyd meddwl ac mae’n anodd iddyn nhw gael y gefnogaeth pan maen nhw ei angen. Tynnodd sylw hefyd at y ffaith nad ydy nifer o weithwyr iechyd meddwl proffesiynol yn deall sut y gall anawsterau iechyd meddwl edrych yn wahanol i bobl anabl:

“Mae angen inni sicrhau bod yr holl wasanaethau iechyd meddwl yn cael eu haddysgu am anabledd a sut y gall anabledd a phroblemau iechyd meddwl gyd-fodoli, ac yn anffodus mae hyn yn wir y rhan fwyaf o’r amser. Rwyf yn gwybod o fy mhrofiad fy hun bod cael nam ar y golwg wedi cael effaith negyddol ar fy iechyd meddwl. Mae angen inni sicrhau bod ein holl adnoddau yn ddarllenwyr sgrin hygyrch a bod fersiynau hawdd eu deall ar gael.”

Pwysleisiodd hefyd pa mor bwysig ydy gwrando ar bobl anabl am yr hyn maen nhw ei angen a sut i wneud pethau yn well. “Mae gan y rhai ohonom gydag anableddau lawer i’w ddweud, gobeithio eich bod yn barod i wrando”.

Gallwch wylio’r araith gyfan yma: